Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn gynharach heddiw, mi ymunodd swyddogion heddlu lleol, cynghorwyr tref a sir, Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, yn ogystal ag Aelodau Seneddol y gorffennol a’r presennol â’r Prif Gwnstabl Amanda Blakeman KPM, ar gyfer y seremoni agoriadol.
Mae’r orsaf yn lleoliad ar gyfer swyddogion ymateb a’r Tîm Plismona Cymdogaethau weithio ohono.
Wrth siarad yn Llys Llen, dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Mae’r preswylwyr lleol a’r gymuned fusnes wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â‘r hyn maen nhw eisiau ac angen yma ym Mhrestatyn, ac mae llais y gymuned wedi llwyddo yma, felly ‘dwi’n ddiolchgar iawn am hynny.
“’Dwi’n ddiolchgar i fy nhîm, sydd wedi chwarae rôl allweddol yn sicrhau’r adeilad, llunio’r cynlluniau, gwrando ar yr hyn mae’r swyddogion angen, a’i wireddu.
“’Dwi’n hynod o falch bod gynno ni orsaf heddlu yng nghalon y dref. Mi wnaiff hyn alluogi ein swyddogion a’n staff fod yn weladwy, a bod yn hygyrch yn gyhoeddus.”
Mae ein gwasanaeth cownter blaen ar gael i’r gymuned leol rhwng 9am a 5pm, o ddydd Mawrth hyd at ddydd Gwener.