Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 22 oed wedi ei garcharu am drais yn erbyn ei gymar.
Mi ymddangosodd Fletcher Wright, o Ffordd Benjamin, Wrecsam gerbron Llys y Goron, yr Wyddgrug i’w ddedfrydu heddiw (dydd Mercher, 6 Tachwedd), wedi iddo gyfaddef ymddygiad rheolaethol a gorfodol, tagu nad yw’n angheuol a bygwth tyst.
Mi gafodd ei garcharu am dair blynedd, ac mi dderbyniodd orchymyn atal penagored, er mwyn gwarchod y dioddefwr.
Tra ar fechnïaeth yr heddlu efo amodau i beidio mynd ar gyfyl na chysylltu â’r dioddefwr yn dilyn digwyddiad gafodd ei riportio i’r heddlu ym mis Ionawr, mi barhaodd ei ymddygiad rheolaethol a gorfodol, a thrais corfforol, tra hefyd yn bygwth difrodi ei heiddo.
Yn dilyn datgeliadau pellach gan y dioddefwr i’r heddlu ym mis Ebrill, mi gafodd Wright ei gyhuddo eto a’i remandio i’r ddalfa.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Jessica Rowley: “Gallai cam-drin domestig ymddangos mewn sawl ffurf a chael effaith ddwys a pharhaol ar unigolyn.
“Mi arddangosodd Fletcher batrwm parhaus o ymddygiad rheolaethol drwy gydol y berthynas, gan ddefnyddio trais i beri ofn i’r dioddefwr.
“Mi geisiodd barhau efo’r ymddygiad hwnnw drwy gydol yr ymchwiliad, er mwyn ceisio atal y dioddefwr rhag cael cymorth.
“Mae Fletcher wedi diystyru’r system cyfiawnder troseddol yn llwyr, ac mae’n peri perygl i ferched.
“’Dydy o ddim yn hawdd riportio digwyddiadau o'r fath, a ‘dwi’n cymeradwyo dewrder y dioddefwr am leisio ac am gynorthwyo’r ymchwiliad.
“Mi fuaswn yn argymell yn gryf bod pobl yn gwneud cais i’r Cynllun Datgeliadau Cam-Drin Domestig (DVDS) wrth ddechrau perthynas newydd.
“’Da ni’n parhau gweithredu ar unrhyw hysbysiad o bob math o drais yn erbyn merched, ac mi wnawn ni barhau yn ein hymdrechion i ddod â troseddwyr cam-drin domestig o flaen eu gwell.”