Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn wedi cael eu harestio yn dilyn gwarant cyffuriau yn Llanberis y bore 'ma.
Aeth swyddogion i gyfeiriad yn ardal Dol Eilian y bore yma, dydd Gwener 1 Tachwedd, yn dilyn ymchwiliad gan y Tîm Plismona Cymdogaethau.
Cafodd tri dyn gan gynnwys dyn 20 oed o ardal Llanberis, llanc 19 oed o ardal Runcorn, a dyn 57 oed o ardal Bangor eu harestio ar amheuaeth o fod hefo arf ymosodol a bod hefo cyffuriau dosbarth A a B yn eu meddiant hefo'r bwriad o'u cyflenwi.
Cafodd dwy gyllell a nifer o gyffuriau dosbarth A a B a amheuir eu hatafaelu.
Mae'r tri dyn yn parhau yn y ddalfa tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Ian Roberts: "Mae dileu cyffuriau o gymunedau cefn gwlad yn parhau bod yn ganolbwynt i'r tîm plismona lleol yng Ngogledd Gwynedd.
"Bydd y rhai sy'n dod â chyffuriau i'r ardal er mwyn manteisio ar ein trigolion mwyaf bregus ni'n cael eu hymlid ac fe ymdrinnir â nhw.
"Hefo gwybodaeth yn dod i law gan aelodau'r cyhoedd, gallwn ni barhau aflonyddu ar y cyflenwad o gyffuriau i'r ardal.
Dylai unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am gyflenwi cyffuriau yn yr ardal gysylltu hefo'r heddlu neu siarad hefo Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111.