Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dynes fu farw yn y Rhyl ar 25 Hydref wedi rhoi teyrnged iddi.
Roedd Catherine Flynn yn 69 oed ac yn byw ar Ffordd Cefndy.
Mae Dean Mark Albert Mears (33), o Bodelwyddan Avenue, Bae Cinmel Bodelwyddan wedi ei gyhuddo o'i llofruddio ac o fyrgleriaeth hefo'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol. Mae dyn arall a gafodd ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio'n parhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Dywedodd teulu Mrs Flynn: "Roedd Cathy yn fam, nain, hen nain, modryb a chwaer ragorol ac yn ail fam i lawer ac yn ffrind gwych.
"Roedd hi'n caru ei theulu yn fwy na dim. Roedd hi'n gogydd gwych ac roedd hi o hyd eisiau bwydo unrhyw un oedd yn ei chwmni hi.
"Ei phrif ddiléit (ar ôl ei theulu) oedd ei chariad at ei gardd. Byddai'n eistedd am oriau yn unig yn gwylio'r adar a'r gwenyn yn dod i mewn ac allan o'i gwlad hyd a lledrith bach, ac roedd pob blodyn yno. Roedden ni'n aml yn meddwl tybed sut oedd ei gardd hi o hyd mor brydferth - rŵan 'da ni'n gwybod. Mae hynny oherwydd mai hi oedd yr heulwen.
"I'w merch, Natasha, a'i mab-yng-nghyfraith Liam, hi oedd eu Queenie, nid eu mam yn unig. Hi oedd popeth iddyn nhw. Doedd dim byd yn ormod iddi. I'w hwyres, Natalia, hi oedd ei ffrind gorau yn yr holl fyd. Roedd gan Natalia a'i nain y berthynas fwyaf cadarn. Roedd cartref Nain yn gartref i ni i gyd.
"I'w merch, Catherine, a'i mab, Michael, eu mam oedd eu craig, dim ots beth. Roedd hi yno o hyd, hyd yn oed os mai dim ond ar gyfer galwad ffôn. Roedden nhw'n gwybod y gallen nhw godi'r ffôn a byddai'n ateb. Byddai hi'n helpu unrhyw un y gallai, a byddai hi bob amser yn gwneud ei gorau.
"Mae Catherine yn cofio dod adref o'r ysgol a'i mam yn bwydo ffrindiau ei chwaer o gwmpas y bwrdd, er nad oedd ei chwaer yno. Byddai'n bwydo unrhyw un oedd yn dod i'w drws. Pe byddech chi'n curo ar ei drws, byddai hi wedi gadael i chi ddod i mewn a'ch helpu chi. Roedd ei thŷ hi mor gynnes a chroesawgar. Roedd hi'n brydferth, y tu mewn a'r tu allan.
"I'w ffrindiau, ei chymdogion, ac unrhyw un arall roedd hi'n ei adnabod, dim ond pelydryn o heulwen oedd hi hefo'r wên fwyaf ar ei hwyneb. Byddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un. Byddai'n rhoi ei cheiniog olaf i unrhyw un ac roedd ei drws bob amser ar agor am baned a sgwrs. Roedd hyn yn digwydd y ddwy ffordd. Byddai unrhyw un oedd yn ei hadnabod yn gwneud unrhyw beth drosti hefyd, gan ei bod yn cael ei pharchu gan bawb.
"Mae ei marwolaeth wedi gadael twll enfawr yng nghalonnau pawb. Ni fydd pethau byth yr un fath heb ein Queenie ni. Nid yn unig rydyn ni wedi colli ein mam a'n nain, ond 'da ni hefyd wedi colli ein ffrind gorau, ein lle saff, ein diogelwch, asgwrn cefn y teulu a'n heulwen dyddiol ni."
"Dwi'n gobeithio fod yr angylion yn gwybod beth sydd ganddyn nhw. Dwi'n siŵr ei fod mor braf yn y nefoedd ers i chi gyrraedd."
Mae teulu Mrs Flynn yn parhau i gael help gan swyddogion arbenigol.
Anogir unrhyw un sydd hefo gwybodaeth nad ydynt eisoes wedi dod ymlaen i gysylltu hefo'r heddlu trwy ein sgwrs we fyw neu 101. Fel arall, ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu cyf Q161073.