Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fe wnaeth swyddogion heddlu, staff, gwirfoddolwyr ac aelodau o wasanaethau brys eraill oleuo Moel Famau ar y daith gerdded golau glas flynyddol er cof am PC Ryan Donaldson.
Mae'r digwyddiad, sy'n cynnwys gwasanaethau brys eraill yn cael ei gynnal bob blwyddyn er cof am PC Ryan Donaldson, aelod o dîm plismona Wrecsam Wledig a gyflawnodd hunanladdiad ym mis Rhagfyr 2022.
Moel Famau ydy'r bryn uchaf ym Mryniau Clwyd ac roedd Ryan ym mwynhau cerdded yno gyda'i ffrindiau a'i deulu.
Roedd pawb a gymerodd rhan yn y digwyddiad dros y penwythnos, gan gynnwys swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, NEWSAR a Chyngor Sir Ddinbych yn cario golau glas mewn ymgais i oleuo'r awyr dros yr achos.
Dywedodd yr Arolygydd Sophie Ho, cyn-Rhingyll Ryan: “Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal bob blwyddyn i gadw'r cof am Ryan yn fyw ac i gefnogi unrhyw un sy'n dioddef gyda’i iechyd meddwl.
“Mae'n gyfle i siarad â'n gilydd a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn ag iechyd meddwl yn ystod tymor pan gall pobl deimlo'n isel oherwydd tywydd drwg, a'r dyddiau'n byrhau.
“Roedd teulu Ryan am wneud rhywbeth positif er cof amdano - a hyn oedd y ffordd orau i wneud hynny. Mae'n rhywbeth mae ei deulu yn mwynhau gwneud yn ystod misoedd sy'n anodd iddynt."
Ychwanegodd Rhingyll Ho: "Roedd Ryan yn mwynhau ei swydd ac wrth ei fodd yn rhedeg y golau glas.
"Roedd yn eofn yn ei waith plismona ac roedd ganddo'r gallu naturiol i ganfod pethau, pobl a throseddau. Roedd yn gaffaeliad i'r tîm ac yn ffrind a chydweithiwr gwych i'r rhai oedd yn meddwl cymaint ohono.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n cofio amdano. Dydy hi ddim yr un fath ers ei golli - mae bwlch anferth ar ei ôl na all neb ei lenwi.
"Mae'r daith gerdded golau glas yn ffordd bositif o'i gofio."
Dywedodd Arolygydd Ho bod hi'n bwysig creu sgyrsiau am iechyd meddwl a diddymu'r stigma sy'n gysylltiedig â'r cyflwr.
Mae'r staff gwasanaeth golau glas yn profi trawma a all gael effaith ar eu hiechyd meddwl" meddai. “Ond gall unrhyw un ar unrhyw adeg gael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl ac mae'n dod mewn gwahanol ffyrdd.
"Gall fod yn brofiad unig weithiau ac mae'n bwysig creu amgylchedd sy'n ymwybodol o iechyd meddwl ac i greu lle cyfforddus, heb ragfarn i rywun droi ato.
“Mae cael rhywun i wrando arnoch yn beth pwerus iawn a gall gwybod nad ydych ar eich pen eich hun wneud gwahaniaeth mawr."
Os ydych yn cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl neu'ch lles, dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac mae help ar gael i chi. Beth i wneud os ydych yn gofidio am les rhywun - Heddlu Gogledd Cymru