Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch wedi'i lansio yn ninas Wrecsam heddiw er mwyn mynd i'r afael â throseddau manwerthu yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Bydd Tîm Plismona Cymdogaethau Dinas Wrecsam yn cynnal Ymgyrch Blizzard dros y misoedd nesaf er mwyn helpu mân-werthwyr sy'n cael eu targedu gan ladron siopau.
Bydd swyddogion penodol yn fwy amlwg trwy gynnal patrolau o amgylch y ddinas ac mewn llecynnau lle mae problemau. Bydd hyn ar droed ac ar feiciau trydan mewn ymgais i fynd i'r afael â throseddau sy'n gysylltiedig hefo busnes a'u lleihau.
Bydd yr ymgyrch hefyd yn gweld swyddogion yn sgwrsio hefo'r gymuned ac yn siarad hefo perchnogion siopau er mwyn deall pryderon yn well ynghylch troseddau manwerthu lleol, adnabod troseddwyr a chynnig cyngor atal trosedd.
Dywedodd Heidi Stokes, Arolygydd Dinas Wrecsam: "Mae galw parhaus am ymateb i droseddau manwerthu yn ninas Wrecsam. Mae ein swyddogion lleol ni'n gweithio bob dydd hefo busnesau lleol a sefydliadau partner er mwyn adnabod troseddwyr yn gyflym a delio hefo nhw'n gadarn.
"Hyd yma eleni, mae troseddau o ddwyn o siopau manwerthu wedi lleihau yn y ddinas, sy'n adlewyrchu'r gwaith anodd y mae swyddogion a staff wedi'i wneud i'w atal.
"Yn ystod yr wythnosau sy'n arwain at y Nadolig pan all lladradau manwerthu gynyddu, nod Ymgyrch Blizzard ydy helpu'r sector manwerthu ymhellach trwy gynyddu amlygrwydd yn y ddinas a chynnal cyswllt rheolaidd hefo mân-werthwyr.
"Bydd hefyd yn anelu mynd i'r afael â throseddwyr cyson neu fynych, gan sicrhau ein bod yn gwarchod staff, cwsmeriaid a busnesau rhag y math hwn o droseddu.
"Mae dwyn o siopau a mân-werthwyr yn cael ei ystyried yn drosedd heb ddioddefwyr ond mae'n niweidiol i fusnesau lleol. Mae'r effaith yn sylweddol ar staff, cwsmeriaid eraill sy'n bresennol a'r busnesau eu hunain. Ni ddylai staff orfod mynd i'r gwaith rhag ofn cael eu sarhau neu ddioddef ymddygiad bygythiol.
"Er bod camau cadarn yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai sy'n dwyn o siopau, mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn mynd ati i gyfeirio a helpu'r rhai sy'n cael trafferth hefo camddefnyddio sylweddau er mwyn ceisio tarfu neu gael gwared ar droseddu mynych.
"Fe wnawn ni barhau gweithio'n agos hefo asiantaethau partneriaeth gan gynnwys Cyngor Sir Wrecsam a'r Gwasanaeth Prawf er mwyn sicrhau bod ystod eang o ragofalon a mesurau ar waith er mwyn lleihau'r galw a'r effaith y mae troseddau manwerthu yn eu cael ar ein cymuned."