Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae heddiw’n nodi lansiad Eyes Open, ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o gamfanteisio troseddol ar blant a llinellau cyffuriau.
Mae Eyes Open yn addysgu pobl ifanc, eu rhieni a’u gofalwyr am beryglon meithrin perthynas amhriodol, camfanteisio a’r tactegau twyllodrus a ddefnyddir gan gangiau llinellau cyffuriau.
Mae llinellau cyffuriau yn cyfeirio at y rhwydweithiau y mae gangiau troseddol yn eu defnyddio i ddosbarthu cyffuriau o ddinasoedd i drefi llai ac ardaloedd gwledig.
Mae’r gweithrediadau hyn yn dibynnu’n fawr ar gamfanteisio ar blant a phobl ifanc i gludo a gwerthu cyffuriau ar draws gwahanol leoliadau. Unwaith y bydd y plentyn yn ddibynnol ar y gang, caiff ei orfodi i gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol, yn aml gyda bygythiadau, trais a chamdriniaeth. Mae teuluoedd ac anwyliaid y plentyn hefyd mewn perygl.
Mae Eyes Open wedi’i ddatblygu ar y cyd gyda heddluoedd Manceinion, Gogledd Cymru, Sir Gaerhirfryn, Glannau Merswy, ochr yn ochr ag Uned Troseddau Cyfundrefol Rhanbarthol y Gogledd Orllewin (NWROCU) ac Uned Lleihau Trais Caint a Medway.
Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Eyes Open wedi datgelu, er bod y rhan fwyaf o rieni’n gyfarwydd â’r term llinellau cyffuriau (76%), mai dim ond 39% oedd yn cyfeirio at blant, pobl yn agored i niwed neu arloesi, gyda llawer yn dweud mai ‘cludo cyffuriau’ a ‘delio cyffuriau’ yn unig ydoedd.
Mae’r ymgyrch yn amlygu natur ysbeidiol gangiau a sut maent yn meithrin perthynas amhriodol â phlant trwy roddion neu ymdeimlad o berthyn. Mae hefyd yn galluogi rhieni a phobl ifanc i gydnabod arwyddion camfanteisio a lle gallant fynd am gymorth.
Mae adnoddau ymgyrch newydd yn dangos sut mae yna dwyll bob amser ynghlwm â rhoddion ‘am ddim’ fel dillad drud, ‘vapes’ neu feiciau drud.
Bydd yr ymgyrch yn ymddangos ar draws y cyfryngau cymdeithasol, sianeli digidol, yn uniongyrchol gyda phartneriaid a thrwy weithdai addysgol i gyrraedd pobl ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr.
Mae gwefan Eyes Open yn cynnig canolbwynt gwybodaeth i bobl ifanc, eu rhieni a’u gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n chwilio am gyngor, arweiniad ac adnoddau.
Datblygwyd yr ymgyrch trwy ymchwil helaeth, grwpiau ffocws ac astudiaethau profiad byw, gan sicrhau ei fod yn cynrychioli profiadau amrywiol y rhai sy’n cael eu heffeithio yn gywir.
Meddai’r Uwcharolygydd Chris Bell, Pennaeth Adran Troseddau Difrifol a Threfniadol Heddlu Gogledd Cymru: “Yn anffodus, mae plant bach ac oedolion bregus yn aml yn cael eu paratoi gan gangiau i fynd â chyffuriau o un ardal i rannau eraill o’r wlad. Yn aml, mae trais eithafol ac ymddygiad gorfodol yn dilyn y meithrin perthynas amhriodol hwn. Mae hwn yn broblem ddifrifol sydd angen sylw i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cael eu camfanteisio.
“Mae Ymgyrch Draig – dull partneriaeth Heddlu Gogledd Cymru o fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfniadol wedi ymrwymo i atal camfanteisio ar blant a dyna pam rydym yn falch o fod yn cyfuno ymdrechion gyda’n cydweithwyr ar draws y Gogledd Orllewin a Chaint i dargedu gangiau llinellau cyffuriau sy’n gweithredu yn yr ardal.
“Drwy godi ymwybyddiaeth o arwyddion y llinellau cyffuriau, gobeithio y gallwn addysgu pobl ifanc, eu rhieni a’u gofalwyr am beryglon paratoi, camfanteisio a’r tactegau twyllo a ddefnyddir gan gangiau llinellau cyffuriau.
“Ni fyddwn yn rhoi’r gorau i’n penderfyniad i atal y camfanteisio a’r niwed cysylltiedig a achosir. Trwy ddefnyddio adnoddau arbenigol wedi’i targedu, ein cenhadaeth o hyd yw nodi a diogelu’r rhai sy’n cael eu hecsbloetio a mynd ar drywydd y rhai sydd wedi’u targedu yn ddiflino.
“Bydd unrhyw un sy’n cael ei ecsbloetio gan y gangiau hyn yn cael ei ddiogelu a’i gefnogi.”
Meddai’r Ditectif Arolygydd Adam Norton, Cydlynydd Canolfan Cydgysylltu Llinellau Cyffuriau ar ran Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol y Gogledd Orllewin: “Wrth i ni lansio’r ymgyrch Eyes Open, rydym yn sefyll yn unedig yn ein hymrwymiad i amddiffyn ein plant a pobl ifanc rhag yr effaith ddinistriol o arloesi llinellau cyffuriau.
“Mae’r ymgyrch hon yn gam hanfodol o ran addysgu ein cymunedau am y dacteg dwyllodrus a ddefnyddir gan gangiau troseddol, mae’n gam hefyd i rymuso rhieni, gofalwyr a phawb arall sy’n cyfarfod pobl ifanc i gydnabod a gwrthsefyll y bygythiadau hyn.
“Mae gan bawb gyfrifoldeb i aros yn wyliadwrus a diogelu’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau rhag niwed. Drwy gydweithio, gallwn ysgogi’r ymateb sydd ei angen i dorri’r cylch ecsbloetio ac adeiladu dyfodol mwy diogel a mwy gwybodus i bawb.”
Mae pob heddlu sy’n ymwneud â’r ymgyrch yn cynnal gweithrediadau llinellau cyffuriau penodol i darfu ar droseddwyr a diogelu dioddefwyr camfanteisio. Ers 2019, mae heddluoedd wedi cau mwy na 5,600 o linellau yn genedlaethol ac wedi cyfeirio 8,800 o unigolion at wasanaethau diogelu. [1]
Mae’r heddlu’n trin pob plentyn sy’n gysylltiedig â llinellau cyffuriau fel dioddefwyr posib ac yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i roi mesurau diogelu ar waith i atal pobl sy’n cael eu hecsbloetio rhag niwed.
Mae Eyes Open yn cefnogi gwaith yr heddlu a phartneriaid drwy godi ymwybyddiaeth o linellau cyffuriau, annog cymunedau i adnabod yr arwyddion a bod yn fwy gwybodus i helpu torri’r cylch o gamfanteisio a meithrin perthynas amhriodol.
Os ydych chi’n credu y gallai rhywun gael ei gamfanteisio yn y ffordd hon, gallwch roi gwybodaeth 100% yn ddienw i Crimestoppers, elusen annibynnol. Nid yr heddlu yw Crimestoppers. Mae bod yn ddienw yn golygu bod eich hunaniaeth yn gwbl anhysbys.
Os ydych yn meddwl bod rywun mewn perygl, ffoniwch 999 bob amser.
Er mwyn dysgu mwy am yr ymgyrch ewch i’r wefan https://eyes-open.co.uk/