Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mi ymunodd Heddlu Gogledd Cymru â Heddlu Swydd Gaer ddoe, er mwyn mynd i’r afael â throseddoldeb ar draws y ddwy ardal.
Ar ddydd Iau, 28 Tachwedd, mi gymerodd swyddogion o Dîm Plismona Gogledd Sir y Fflint ran mewn ymgyrch efo swyddogion o Gaer a Swydd Caer, efo’r nod o dargedu trosedd difrifol a threfnedig dros y ffin rhwng y ddwy sir.
Mi wnaeth yr ymgyrch ganiatáu i bartneriaid o sawl sefydliad weithio ar y cyd, er mwyn trechu a tharfu ar droseddoldeb, gan gynnwys y rhai sy’n teithio rhwng Sir y Fflint a Chaer, tra’n darparu presenoldeb er mwyn tawelu meddwl y cyhoedd a pherchnogion busnesau.
Mi wnaeth y gweithgareddau ar draws y ddwy ardal gynnwys:
Yn ystod y diwrnod, rhwng y ddau heddlu, mi ‘roedd 12 arestiad, 22 stopio a chwilio, dros 60 cerbyd wedi’u stopio, a swm sylweddol o sigaréts a fêps wedi’i hatafaelu.
Mi ‘roedd hefyd chwech arést yn ymwneud â mewnfudo, pump cerbyd wedi’u hatafaelu, a chwech Hysbysiad Troseddau’r Ffyrdd.
Dywedodd Arolygydd Gogledd Sir y Fflint, Wes Williams: “Mae Ymgyrch Liberator wedi’i lansio er mwyn mynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig ar draws Gogledd Cymru a Swydd Gaer, lle ‘da ni’n gweithio efo partneriaid fel timau Mewnfudo, Safonau Masnach a Thrwyddedu.
“Bwriad y diwrnod oedd rhoi gwybod i’r cyhoedd ein bod yma, ein bod ar gael, ac mi wnawn ni barhau efo rhedeg yr ymgyrchoedd hyn yn reolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn cynorthwyo ein cymunedau.
“’Da ni’n annog ein trigolion i barhau i roi gwybod i ni am bryderon yn eu hardal, sy’n ein galluogi ni i weithredu ar gudd-wybodaeth er mwyn gwneud Gogledd Sir y Fflint yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld.”
Dywedodd Arolygydd Uned Plismona Lleol Caer, Heddlu Swydd Gaer, James Wilson: “Mae ymgyrch heddiw wedi bod yn llwyddiant mawr, efo nifer o arestiadau, stopio a chwilio ac atafaeliadau.
“Drwy gydol y diwrnod, mi ddefnyddiom ni ystod eang o dactegau er mwyn tarfu ar droseddoldeb yn Swydd Caer, ond mae’n bwysig nodi ein bod ni’n defnyddio’r rhain yn rheolaidd yn ein tactegau plismona dyddiol.
“Wrth symud ymlaen, mi fydd yr ymgyrchoedd rheolaidd hyn yn gyfle gwych er mwyn amlygu ein bod yn gweithio’n agos efo’n cydweithwyr traws-ffiniol yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â’n partneriaid yma yn Swydd Gaer.
“’Da ni wedi dangos ein bod yn ymrwymo i wneud pob dim posib er mwyn trechu ymddygiad troseddol wyneb yn wyneb, a sicrhau bod ffin Swydd Caer / Gogledd Cymru yn parhau i fod yn lle digroeso i droseddwyr.”