Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 61 oed wedi cael ei garcharu am ymosodiad direswm ar ddynes mewn tafarn.
Ymddangosodd John Welsh, o Bodlondeb Terrace, Caergybi, gerbron Llys Ynadon Llandudno ddoe, 7 Tachwedd, wedi'i gyhuddo o ymosodiad gan achosi niwed corfforol gwirioneddol.
Cyfaddefodd Welsh, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Jackie i’r troseddau a chafodd ei garcharu am 26 wythnos.
Mae hefyd wedi'i wahardd rhag mynd i bob safle trwyddedig yn Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy am ddwy flynedd.
Yn ystod oriau mân dydd Llun 28 Hydref, ymosododd Welsh ar ddynes yng Ngwesty’r George yng Nghaergybi.
Yn dilyn ffrae gyda dyn arall yn y dafarn, taflodd Welsh ddiod dros y dioddefwr a oedd yn eistedd wrth ymyl y dyn.
Ar ôl ceisio ei wthio i ffwrdd, taflodd Welsh stôl bar ati cyn neidio tuag ati, tynnu ei gwallt a tharo ei phen ar gadair.
Yna taflodd wydr ar draws ardal y bar cyn gadael y dafarn, a chafodd ei arestio yn fuan wedyn.
Dywedodd Rhingyll Chris Burrow o Dîm Plismona Ynys Môn: “Roedd hwn yn ymosodiad ysgytwol, llwfr a digymell ar y dioddefwr, nad oedd hyd yn oed yn adnabod Welsh a wnaeth hefyd ddychryn pobl eraill yn y dafarn.
"Yn syml, ni fydd trais yn erbyn menywod a merched yn cael ei oddef, a byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell."