Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwasanaethau brys Gogledd Cymru yn paratoi i gynnal eu gwasanaeth carolau Nadolig poblogaidd.
Bydd y gwasanaeth blynyddol, a gynhelir ar y cyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Llanelwy, ddydd Llun 9 Rhagfyr am 7.30pm.
Bydd perfformiadau gan Seindorf Biwmares Band, Côr Heddlu Gogledd Cymru a Rhingyll Arwyn Tudur Jones.
Bydd cymysgedd o ddarlleniadau gan gynrychiolwyr y gwasanaethau brys hefyd, ynghyd â charolau adnabyddus i’r gynulleidfa eu canu.
Bydd yr elw yn mynd i Hosbis St Kentigern yn Llanelwy, sy’n darparu gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol i gleifion â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd yn Sir Ddinbych, gorllewin Sir y Fflint a dwyrain Conwy.
Dywedodd Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r gwasanaeth carolau yn un o uchafbwyntiau cyfnod y Nadolig, nid yn unig i’n staff, ond hefyd i’r gymuned sy’n dod allan mewn niferoedd mawr i’n cefnogi.
“Rydym yn ddiolchgar i Gadeirlan Llanelwy am gynnal digwyddiad sy’n argoeli i fod yn ddigwyddiad gwych arall.”
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae’r gwasanaeth carolau yn gyfle i ddod at ein gilydd i daro’r nodyn Nadoligaidd cywir, yn ogystal â diolch i bawb sy’n gweithio mor galed i gadw ein cymunedau’n ddiogel, nid yn unig adeg y Nadolig, ond bob dydd o'r flwyddyn.
“Cawsom nifer wych yn y gwasanaeth y llynedd ym Mangor, ac rydym yn gwybod y bydd cymuned Llanelwy yr un mor gefnogol eleni.”
Ychwanegodd Prif Gwnstabl Amanda Blakeman o Heddlu Gogledd Cymru: “Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â chydweithwyr, partneriaid a ffrindiau ar gyfer yr achlysur arbennig hwn i ddechrau dathliadau’r Nadolig.
“Pob flwyddyn mae llawer o staff, gwirfoddolwyr, eu teuluoedd ac aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno dangos eu cefnogaeth yn mwynhau’r gwasanaeth.
“Mae croeso cynnes i bawb i’r hyn rwy’n siŵr fydd yn noson fendigedig.”
Mae mynediad am ddim, ac mi fydd lluniaeth yn cael ei weini yng nghefn y gadeirlan yn dilyn y gwasanaeth.