Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 25 oed heddiw wedi ei garcharu am dreisio ac ymosod yn rhywiol ar blentyn.
Mi ymddangosodd Ryan Russell, heb gyfeiriad sefydlog, yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw (dydd Mawrth, 26 Tachwedd), lle gafodd ddedfryd o 8 mlynedd i’r carchar, a 3 mlynedd pellach ar drwydded.
Mi gyfaddefodd 14 trosedd yn dyddio’n ôl i’r haf diwethaf, gan gynnwys dau drosedd o dreisio plentyn, dau drosedd o ymosodiad rhywiol a phedwar trosedd o ymwneud â gweithgaredd rhywiol efo plentyn, yn ardal Sir y Fflint.
‘Roedd y dioddefwr, oedd yn 12 oed pan ddigwyddodd y drosedd gyntaf, wedi dweud wrth yr heddlu ei bod wedi cyfarfod Russell drwy Snapchat.
Mi gyfaddefodd Russell hefyd ei fod wedi ysgogi ail ferch i ymwneud â gweithgaredd rhywiol, a thri trosedd o greu lluniau anweddus a bod â lluniau pornograffig eithafol yn ei feddiant.
Yn dilyn ei arestiad, mi wnaeth ymchwiliadau digidol o’i ddatgelu bron i 200 o luniau anweddus o’r categori mwyaf difrifol ar ei ffôn.
Mi wnaeth data Snapchat hefyd ddangos bod Russell wedi bod yn sgwrsio efo nifer o ferched o dan oed ar y llwyfan cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Ben Franklin: “Er na fydd dedfryd heddiw yn diddymu’r niwed na’r gofid achoswyd i’r dioddefwr a’i theulu, ‘dwi’n gobeithio ei fod yn rhoi rhywfaint o gysur, drwy wybod na allai unrhyw un arall gael eu niweidio.
“Mi hoffwn hefyd ei chymeradwyo am ei dewrder yn riportio troseddau mor ddifrifol, a thrwy gydol yr ymchwiliad.
“’Dwi’n gobeithio bod hyn yn annog dioddefwyr eraill ac yn rhoi ymddiriedaeth iddyn nhw bod Heddlu Gogledd Cymru yn ymdrechu ymchwilio trais yn erbyn merched a genethod, a dod â‘r troseddwyr o flaen eu gwell.”