Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch genedlaethol sy’n anelu at leihau nifer y gyrwyr heb yswiriant ar ffyrdd y DU.
Mae Uned Troseddau Ffyrdd, gyda chefnogaeth cydweithwyr o dimau plismona eraill yn cefnogi’r fenter wythnos o hyd fel rhan o ymrwymiad yr heddlu i leihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd.
Dechreuodd Ymgyrch Drive Insured ddydd Llun (Tachwedd 11) ac mae’n gweld cynnydd mewn gweithgarwch plismona ffyrdd ar draws y rhanbarth mewn ymgais i ganfod ac atafaelu cerbydau heb yswiriant sy’n cael eu defnyddio ar y rhwydwaith ffyrdd yn anghyfreithlon ac yn anghyfrifol.
Wedi’i ddatblygu gan yr MIB (Motor Insurers’ Bureau) mewn partneriaeth â phwyllgor Gweithrediadau, Cudd-wybodaeth ac Ymchwiliadau Plismona Ffyrdd Cenedlaethol, mae’r wythnos weithredu yn ddyddiad blynyddol yng nghalendr diogelwch ffyrdd Cyngor Prif Swyddogion Heddlu Cenedlaethol.
Mae ffigyrau gan yr MIB yn dangos y llynedd, atafaelwyd mwy na 129,000 o gerbydau heb yswiriant, a bu 35,000 o hawliadau gan ddioddefwyr a anafwyd gan yrrwr heb yswiriant neu yrrwr taro a ffoi ledled y DU.
Mae tystiolaeth gan MIB yn dangos bod 300,000 o gerbydau heb yswiriant ar gyfartaledd ar ffyrdd y DU bob dydd a bod rhywun yn cael ei daro bob 20 munud gan yrwyr heb yswiriant neu yrrwr taro a rhedeg yn y DU.
Mae gweithredoedd gyrwyr heb yswiriant yn cael effaith gorfforol, emosiynol ac economaidd enfawr, sy’n costio mwy na £2.4 biliwn y flwyddyn i economi’r DU. Maent hefyd yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â throseddau eraill, boed hynny’n defnyddio cerbyd wedi’i ddwyn, yn gyrru o dan waharddiad neu heb drwydded yrru ddilys yn ogystal â gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Un o’r rhesymau am hyn yw, yn wahanol i yrwyr yswiriedig, nad yw’r rhai sydd heb yswiriant yn cael eu cymell i ymddwyn yn fwy diogel a bodloni’r gofynion cyfreithiol sylfaenol a gynlluniwyd i gadw costau polisi i lawr.
Mae MIB angen £500 miliwn bob blwyddyn i ddarparu cymorth ariannol i’r rhai sy’n gysylltiedig â gwrthdrawiadau ffordd gyda gyrwyr heb yswiriant a gyrwyr taro a ffoi, sy’n cael ei ariannu gan yswirwyr ac yn y pen draw, y defnyddwyr.
Dywedodd yr Arolygydd Leigh Evans o Uned Troseddau’r Ffyrdd: “Mae lleihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni ac mae tynnu gyrwyr heb yswiriant oddi ar ein ffyrdd yn helpu i wneud hynny.
“Gan ddefnyddio technoleg ANPR sydd ar gael, byddwn yn cynnal cyfuniad o wiriadau ffyrdd symudol a statig drwy gydol yr ymgyrch.
“Bydd llawer o bobl yn gweld gyrru heb yswiriant fel trosedd heb ddioddefwyr ar y gorau, neu dim ond yn effeithio ar elw cwmnïau yswiriant mawr ar y gwaethaf, ond nid yw hyn yn wir.
“Mae gyrwyr heb yswiriant yn llawer mwy tebygol o achosi marwolaeth neu anafiadau ar y ffordd ac maent hefyd yn aml yn ymwneud â throseddau ffyrdd ehangach.
“Yn llawer rhy aml rydym yn gweld y dinistr mae gwrthdrawiadau ffyrdd yn ei gael ar y rhai dan sylw, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach. Pan fydd hyn yn cynnwys gyrrwr heb yswiriant, mae cost ariannol yn gysylltiedig ag ef hefyd.
“Mae’r ymgyrch yma’n bwysig er mwyn gwarchod y rhan fwyaf o yrwyr gofalus a chydwybodol sy’n defnyddio ffyrdd gogledd Cymru.
“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn erfyn ar holl yrwyr i ddangos parch tuag at fodurwyr eraill drwy sicrhau eu bod hefo yswiriant. Mae gwarchod y cyhoedd a chadw ein ffyrdd yn ddiogel yn flaenoriaeth i ni ac mae tynnu’r rhai sy’n gyrru heb yswiriant yn ein cynorthwyo i wneud hynny.”
Mae gyrwyr heb yswiriant yn wynebu atafaelu eu cerbyd ac o bosibl yn cael ei falu, ynghyd â hysbysiad cosb benodedig o £300 a chwe phwynt trwydded. Gallant hefyd gael eu cyfeirio i’r llys a wynebu dirwy anghyfyngedig a gwaharddiad rhag gyrru.
Mae euogfarnau heb yswiriant hefyd yn dangos ar wiriadau sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a all effeithio ar ragolygon cyflogaeth.
Anogir aelodau’r cyhoedd i wirio bod eu cerbyd yn ymddangos fel un sydd wedi’i yswirio ar y MID am ddim yn www.askmid.com neu i gysylltu â’u hyswiriwr am gefnogaeth.
Os ydych chi’n ymwybodol o rywun yn gyrru heb yswiriant, rhowch wybod i ni drwy fynd ar ein gwefan, ffonio 101 sef y llinell ddifrys neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.