Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau werthwr cyffuriau wnaeth gyflenwi crac cocên a heroin i Gonwy o Fanceinion wedi eu carcharu.
Mi wnaeth Nathan Quinn, 28 oed o King Street, Bradshaw, Bolton a Jamie Williams, 21 oed, heb gartref sefydlog ond o ardal Bolton, reoli ymgyrch rhwydwaith Llinellau Cyffuriau oedd yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A i Fae Colwyn a Llandudno.
‘Roedd y llinell, oedd yn weithredol rhwng mis Chwefror a mis Mai eleni, yn anfon llwyth o negeseuon i ddefnyddwyr cyffuriau yn ddyddiol, ac yn hysbysebu bargenion gan gynnwys “Awr fawr, pedwar am 30” er mwyn annog defnyddwyr lleol a chynnig gostyngiad i gwsmeriaid newydd.
Mi gafodd Quinn a Williams eu hadnabod gan swyddogion o’r Uned Troseddau Difrifol a Threfnedig fel rhan o Ymgyrch Constantine – ymchwiliad cudd gan Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer ymdrin â Llinellau Cyffuriau gweithredol yn Sir Conwy.
Mi stopiodd yr heddlu y ddau ar 1 Mai, ar ôl adnabod cerbyd wedi’i hurio yn cael ei yrru gan Quinn a Williams ym Mharc Manwerthu Llandudno.
Mi ’roedd ganddyn nhw arfau miniog yn eu meddiant, ynghyd â chyffuriau, swm sylweddol o arian, cerdyn adnabod ffug, a ffôn grafft oedd yn gysylltiedig â’r ddau ac yn cael ei ddefnyddio i redeg y llinell.
Mi gafodd Quinn a Williams eu harestio, ac o ganlyniad chwilio Williams, mi ddarganfu nifer sylweddol o rapiau unigol o grac cocên a heroin, a gafodd eu hatafaelu.
Mi gafodd Quinn ei gyhuddo efo ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A, a gyrru ac yntau wedi’i wahardd, ac mi gafodd Williams ei gyhuddo o feddu gyda’r bwriad o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Mi gyfaddefodd y ddau y troseddau pan wnaethon nhw ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ar gyfer dedfrydu heddiw (dydd Iau, 21 Tachwedd).
Mi gafodd Quinn ei garcharu am bedair mlynedd, ac mi gafodd Williams ddedfryd i’r carchar am ddwy flynedd a hanner.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Gemma Mary Smith o’r Uned Troseddau Difrifol a Threfnedig: “Mae gwerthu drwy Llinellau Cyffuriau yn gysylltiedig â’r trais mwyaf difrifol, sy’n achosi tristwch ac ofn yn ein cymunedau.
“’Dwi’n croesawu dedfryd heddiw ac yn gobeithio bod yr achos hwn yn tawelu meddwl y gymuned leol, ein bod ni’n ymrwymo gwneud ein gorau glas er mwyn trechu troseddau sy’n ymwneud â chyffuriau yng Ngogledd Cymru.
“Mae gwybodaeth gan y cyhoedd yn hanfodol er mwyn trechu troseddau trefnedig, a ‘da ni’n annog aelodau ein cymunedau godi llais er mwyn ein galluogi wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld.
“Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â gwerthu cyffuriau yn eich ardal, neu ‘da chi’n meddwl bod rhywun mewn perygl o gamfanteisio, cysylltwch efo ni ar 101, neu drwy ein gwefan, neu yn ddienw drwy ffonio’r elusen annibynnol, CrimeStoppers.”