Stamp amser presennol: 19/07/25 13:24:57
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

North Wales Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi
  1. ...
  2. Newyddion

Seremoni’n nodi cyfraniad eithriadol i blismona yng Ngogledd Cymru

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion
Cyhoeddwyd: 12:19 20/11/24

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cydnabod swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr am eu cyfraniad eithriadol i blismona yn y seremoni wobrwyo flynyddol ar nos Iau, 14 Tachwedd.

Cynhaliwyd y seremoni yng Nghadeirlan Llanelwy ac roedd wedi'i noddi gan Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, UNSAIN, CGI, NICHE, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a PACT. Gwelwyd cyfanswm o 22 gwobr yn cael eu cyflwyno yng nghwmni gwesteion arbennig, uwch swyddogion, teulu a ffrindiau.

Ymysg yr enillwyr oedd swyddogion a oedd yn cael eu cydnabod am eu dewrder, mentrau'n ymdrin â throseddau trefnedig, cyflawniad oes, tîm y flwyddyn a gwirfoddolwyr yn cael eu cydnabod am eu hymroddiad a'u dyletswydd i'r heddlu.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman KPM: “Wrth i ni ddathlu 50 mlynedd o Heddlu Gogledd Cymru, ‘da ni’n cofio ac yn dathlu pum degawd o wasanaeth, dewrder ac ymroddiad, ochr yn ochr â chydnabod y ffordd y mae enillwyr ein gwobrau ni wedi cyfrannu at weledigaeth yr heddlu mewn ffyrdd unigryw ac arwyddocaol.

“Mae ein cydweithwyr ni’n parhau gwneud pethau eithriadol ac mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod ac yn diolch i’r rhai sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau nhw.

“Wrth i ni gyrraedd y garreg filltir hon, ‘da ni’n adlewyrchu ar waddol Heddlu Gogledd Cymru. O wrhydri a chadernid i ymchwiliadau o ansawdd, ymdriniaethau arloesol a gwasanaeth rhagorol. Roedd y gwobrau a gafodd eu cyflwyno’n cydnabod dim ond detholiad bach o’r gwaith rhagorol, y cyflawniad a’r ymroddiad i ddyletswydd y mae ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ni’n ei wneud o ddydd i ddydd, yn aml heb ei weld a heb ei glywed.

“Mae plismona'n swydd hynod anodd. Mae'n gosod galwadau a disgwyliadau eithriadol ar ein staff ni. Mae'r byd ‘da ni’n ei blismona’n mynd yn gynyddol gymhleth. Mae angen lefelau arloesedd, disgresiwn a datrys problemau cynyddol.

“Mi fuaswn i’n hoffi diolch a llongyfarch ein holl enillwyr ac enwebeion teilwng ni. Mae nosweithiau fel Gwobrau'r Heddlu yn rhoi ysbrydoliaeth i bobl eraill ac yn gwneud i mi ymfalchïo bod yn rhan o Heddlu Gogledd Cymru. Dwi’n hynod o falch o weithio hefo unigolion mor ysbrydoledig ac roedd yn anrhydedd cyflwyno’r gwobrau mewn lleoliad mor brydferth.”

Ymhlith rhai o’r enillwyr oedd:

Gwobr Cyflawniad Oes: Gordon Saynor, Ymchwilydd Gwrthdrawiadau

I’w dyfarnu i unigolyn y mae eu hymroddiad, arloesedd ac effaith oes nhw wedi llunio eu maes busnes ac ysbrydoli cenedlaethau. Nhw ydy calon Heddlu Gogledd Cymru, ac mae eu hymroddiad nhw’n wirioneddol ysbrydoledig.

Mae Gordon wedi ymrwymo ei hun i wasanaeth cyhoeddus. Fe ymunodd hefo Heddlu Gogledd Cymru fel Cwnstabl yn 1976. Yn 1989 fe ddaeth yn Swyddog Patrôl Traffig ym Mhorthmadog. Yn 1994 fe ddaeth yn Ymchwilydd Gwrthdrawiadau tra’n gweithio fel Swyddog Traffig. Yn 2001 roedd yn rhan annatod o gychwyn a gweledigaeth Uned Ymchwiliad Gwrthdrawiad Fforensig Heddlu Gogledd Cymru. Mae’n parhau i fod yr unig aelod gwreiddiol.

Ar 14 Rhagfyr 2009 fe wnaeth Gordon ymddeol fel Swyddog Heddlu, ar ôl cwblhau 33 mlynedd, 5 mis a 22 diwrnod o wasanaeth. Ar 15 Rhagfyr 2009 fe gychwynnodd Gordon ei swydd fel Ymchwilydd Gwrthdrawiadau ac yno mae’n parhau hyd heddiw.

Mae Gordon wedi ymateb ac ymchwilio i gannoedd o wrthdrawiadau traffig ffyrdd angheuol ac sydd wedi achosi anafiadau difrifol. Mae wedi helpu sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr di-rif ac wedi ceisio cael diweddglo i ffrindiau, teuluoedd a pherthnasau sydd wedi colli eu hanwyliaid. Hyd heddiw mae ei ymrwymiad o’n disgleirio ym mhopeth mae’n ei wneud, ac mae’n creu gwaith i’r safonau uchaf yn gyson. Yn llythrennol, mae Gordon yn llawn gwybodaeth a fo ydy’r dyn os ‘da chi eisiau gwybod rhywbeth i lawer o fewn a thu allan i’r heddlu.

Gordon_Saynor.JPG

  • Tîm y Flwyddyn: Trafodwyr

Mae trafodwyr yr heddlu yn cynnwys swyddogion sy’n cyflawni’r rôl ac sy’n achub bywydau yn ychwanegol at eu dyletswyddau craidd. Mae’r rôl yn golygu bod ar alwad am oddeutu pum diwrnod bob mis. Mae hwn yn waith allweddol sy’n helpu pobl sydd mewn argyfwng, gwarchae a phobl ar goll sy’n peri risg mawr. Yn ogystal â darparu ymateb gweithredol, mae trafodwyr yn darparu mewnbwn addysgiadol ar draws y sefydliad er mwyn helpu cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth.

Mae rôl y trafodwr yn achub bywydau di-rif bob blwyddyn, yn lleihau sefyllfaoedd risg uchel yn saff, ac yn gwella ymateb sefydliadol i’r rhai mewn argyfwng.

Mae’r gwaith hanfodol hwn yn sicrhau bod gan Heddlu Gogledd Cymru’r siawns orau o achub bywydau, datrys sefyllfaoedd yn heddychlon, a helpu darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cymunedau.

Mae ein trafodwyr i gyd yn wirfoddol, gan roi o’u hamser yn fodlon i’r rôl allweddol hon.

  • Gwobr Blaenoriaethau’r Heddlu: Ymgyrch Renew, Y Rhyl

Mae Prosiect Renew y Rhyl yn fenter aml-asiantaeth 'Hel, Dal a Chryfhau’ sy’n anelu mynd i’r afael hefo gweithgarwch troseddol a drefnwyd o fewn ardal a ddiffiniwyd yn glir. Mae’r gwaith hwn yn mynd i’r afael hefo gweithgarwch troseddol sy’n effeithio ar y gymdogaeth, yn meithrin cadernid cymunedol wrth wella ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu ac yn gwneud y cymunedau’n saffach.

Mae tîm Prosiect Renew wedi gweithio’n ddiflino hefo partneriaid mewnol ac allanol er mwyn rhwystro gweithgarwch troseddol yn ddi-dor. Mae’r tîm wedi canolbwyntio ar dargedu’r rhai sy’n camfanteisio ar fasnachu gyffuriau a’r rhai sy’n fregus i gamfanteisio troseddol. Mae cyfres o warantau cyffuriau wedi’u gweithredu sydd wedi arwain at chwalu nifer o ffermydd canabis a chau Llinellau Cyffuriau sydd ar waith yn a thu allan i’r Rhyl.

Mae Prosiect Renew hefyd yn amgyffred llais y gymuned trwy ymgysylltu mewn boreau coffi, archwiliadau gweledol amgylcheddol a nifer o ymweliadau partneriaeth.

  • Gwobr Argraff Gychwynnol: Jack Vernon – Swyddog Cyflenwadau Cynorthwyol

Fe ddechreuodd Jack weithio i Heddlu Gogledd Cymru ar 16 Ebrill 2024 fel Swyddog Cyflenwadau Cynorthwyol. Mae Jack yn dod a gwên i’r gweithle sy’n heintus ac yn ymestyn trwy’r tîm neu unrhyw un sy’n ymweld hefo’r adran.

Mae Jack wedi deall sut mae’r adran yn gweithredu’n sydyn ac wedi ffitio fewn yn y tîm. Mae’n aelod annatod o’r tîm cyflenwi ac yn codi hwyliau rhai o’i gwmpas ar unwaith hefo’i wên heintus.

Mae Jack yn cymryd ofal wrth ei waith, yn sicrhau fod y dillad cywir yn cael eu hanfon. Mae’n gwneud hyn i gyd mewn modd amserol ac effeithlon. Mae rŵan wedi cymryd cyfrifoldeb dros ail-lenwi’r bagiau cymorth cyntaf a bocsys digwyddiadau difrifol.  

Mae Jack yn aelod gwerthfawr iawn a phwysig o’r tîm Cyflenwi.

Jack_vernon.JPG

  • Gwobr Blaenoriaethau’r Heddlu: Y SCCH Iona Beckmann

Mae Iona yn wir ysbrydoledig ac mae’n cael ei disgrifio fel un sydd wedi trawsnewid bywydau pobl yn ei hardal hi.

Mae’n amlwg bod blaenoriaethau’r heddlu wrth wraidd popeth y mae’n ei wneud. Mae hi’n ymgysylltu’n rheolaidd hefo cymunedau lleol, gan fynd i’r afael hefo ystod amrywiol o broblemau. Mae hi’n gweithio hefo Sefydliad y Merched, yn trafod pynciau hanfodol ar ddiogelwch personol ac yn y cartref. Mae hi’n ymweld hefo canolfannau ieuenctid, yn codi ymwybyddiaeth am beryglon troseddau cyllyll, ac yn aml mae hi’n ymweld hefo siopau gan roi cyngor atal trosedd hanfodol. Mae hi hefyd wedi arwain nifer o fentrau diogelu ar gyfer grwpiau bregus, gan osod dioddefwyr trosedd ar flaen y gad yn ei gwaith bob dydd.

Mae Iona yn cael ei chydnabod gan ei chydweithwyr hi fel un onest, teg a diymhongar ac mae’n amlwg ei bod wedi dangos yn gyson ei hangerdd at gyflawni gweledigaeth yr heddlu.

Iona_Beckmann.JPG

  • Swyddog ar Brawf y Flwyddyn: PC Steve Belgrau, Ardal Dinbych Wledig

Mae agwedd, proffesiynoldeb ac ymroddiad Steve tuag at ei rôl wedi bod yn rhagorol. Mae’n llawn brwdfrydedd ac yn ymdrechu cyrraedd y safonau uchaf posibl ym mhopeth y mae’n ei wneud. 

Mae Steve yn hynod angerddol am ei rôl ac yn amlwg gan ei foeseg gwaith. Mae ei ymchwiliadau o safon uchel ac mae ansawdd y gwasanaeth y mae’n ei ddarparu i ddioddefwyr yr un mor uchel.

Mae Steve yn glod i Heddlu Gogledd Cymru ac mae ei agwedd gadarnhaol yn cael effaith fawr ar ei gydweithwyr. Mae’n cael canmoliaeth gyson gan ei gyfoedion am ei bod yn gadarnhaol, yn rhoi sylw i fanylion ac yn barod i helpu pobl eraill.

Esiampl diweddar ydy pan ymatebodd Steve i bryderon am ddiogelwch ar ôl cael adroddiad am ddynes wedi ceisio cymryd bywyd ei hun. Steve oedd y cyntaf i gyrraedd y lleoliad a llwyddodd i roi CPR. Parhaodd i ofalu am y ddynes tan i’r parafeddygon gyrraedd er mwyn helpu. Heb ei gamau cyflym o, byddai hanes y ddynes wedi bod yn wahanol.

Steve_Belgrau.JPG

Roedd enillwyr eraill y noson yn cynnwys:

  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn: John Morris – Arweinydd Cynorthwyol y Cadetiaid, Uned Cadetiaid Wrecsam
  • Pencampwr Amrywiaeth: Y Rhingyll Sarah Hughes-Jones, Wrecsam
  • SCCH y Flwyddyn: Andrew Owen, Bangor
  • Ymchwilydd y Flwyddyn: Y Ditectif Gwnstabl Gavin Jones, Caernarfon
  • Cadét y Flwyddyn: Oliver Aldridge, Wrecsam
  • Pencampwyr Cymraeg: PC Rich Priamo a PC Vinny Jones, Yr Uned Troseddau Ffyrdd
  • Pencampwr y Bobl: Y SCCH Iwan Owen, Tîm Atal Troseddau Cefn Gwlad
  • Gwobr Partneriaeth y Prif Gwnstabl: Stephen Edwards, Carwyn Williams ac Aled Llyr – Y Llinell Las
  • Gwobr Arweinyddiaeth: Hayley Gallienne – Pennaeth Sicrwydd Gwybodaeth
  • Swyddog y Flwyddyn: Y Ditectif Gwnstabl Catherine Jones
  • Gwobr Ansawdd Gwasanaeth: PC Ffion Montgomery
  • Aelod Staff y Flwyddyn: Ian Thompson, Ymchwilydd Gwrthdrawiadau
  • Tîm Ymateb y Flwyddyn: Rota 2 Conwy Wledig
  • Gwobr Dewrder: PC Llinos Hughes
  • Tîm y Flwyddyn: PVPU (Yr Uned Gwarchod Pobl Fregus)

Chief-choir.JPG

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gogledd Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Gwasanaeth Sgwrsio
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024​. Cedwir pob hawl.