Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae arbenigwyr mewn camddefnyddio sylweddau yn amlygu peryglon steroidau anabolig, yn dilyn dedfryd o bron i 8 mlynedd yn y carchar i ddau ddyn heddiw, oedd wedi bod yn rhedeg menter droseddol gwerth miliynau o bunnoedd.
Mi gafodd Lee Ablitt, 50 oed, o Newton-le-Willows, Glannau Mersi ddedfryd o 5 mlynedd, a Christopher Thompson, 49 oed, o Wigan, Manceinion ddedfryd o 2 flynedd a 9 mis. Mi gyfaddefodd y ddau i Gynllwynio i Gyflenwi Cyffuriau Dosbarth C rhwng 2017 a 2021, ac i droseddau enillion eiddo troseddol.
Mi ddefnyddiodd y ddau ddyn nifer o unedau yng Ngogledd Cymru ar gyfer cadw eu cyffuriau, lle wnaethon nhw eu dosbarthu ar draws y wlad i’w cwsmeriaid drwy wasanaeth dosbarthu poblogaidd.
Ym mis Hydref 2021, fel rhan o Ymgyrch Blue Glory, mi wnaeth swyddogion stopio car oedd yn cael ei yrru gan Ablitt o Ogledd Cymru yn ôl i Lannau Mersi ar yr M56. Tu fewn i’r cerbyd, gwnaeth swyddogion traffig ddarganfod cyffuriau Dosbarth C gwerth mymryn o dan £60,000.
Yn dilyn arestiad Ablitt, mi wnaeth swyddogion ditectif o Heddlu Gogledd Cymru chwilio 7 lleoliad ar draws Gogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin Lloegr, lle darganfuwyd cyffuriau Dosbarth C gwerth hyd at £2.1 miliwn, yn ogystal â siwtces yn cynnwys £434,000. Mi atafaelwyd £489,000 i gyd, ac mi ddangosodd ymchwiliadau bod y dynion wedi gwyngalchu cannoedd o filoedd o bunnoedd drwy eu cyfrifon banc.
Ym mis Rhagfyr 2021, mi gyrchodd swyddogion ditectif gartref Christopher Thompson, oedd yn llawn pecynnau steroidau, efo cyfeiriadau ar draws y wlad arnyn nhw.
Yn siarad ar ôl y dedfrydu, dywedodd y Ditectif Chris Wynne, o Dîm Troseddau Blaenoriaethol y Rhanbarth Canolog: “Mi ‘roedd hwn yn ymgyrch soffistigedig, a redodd dros gyfnod o 4 mlynedd.
“Yn amlwg, ‘roedd y cynllwyn mor broffidiol yn ariannol, mi ‘roedd ganddyn nhw fwy o gyffuriau nag ‘roedden nhw’n medru’u gwerthu’n ddigon cyflym.
“Mi ‘roedd yr ymchwiliad yn ymdrin â 40 o gyffuriau gwahanol, ac yn bwysicach i ddefnyddwyr steroidau, mi ‘roedd rhai samplau wedi’u labelu’n anghywir ac yn cynnwys cyffuriau gwbl wahanol, sy’n amlygu’r risgiau ansicr a pheryglus o’r nwyddau anghyfreithlon hyn.”
Dywedodd yr Athro Emeritws Jim McVeigh, sy’n arbenigwr ar Ymddygiad Defnyddio Sylweddau ac Ymddygiad Cysylltiedig, sy’n gweithio i ChangeGrowLive: “Mae’r nifer o bobl sy’n defnyddio steroidau anabolig i’w weld yn cynyddu.
“Mewn astudiaeth gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar, amcangyfrifwyd bod tua 500,000 unigolyn yn y Deyrnas Unedig wedi defnyddio steroidau anabolig yn ystod y 12 mis diwethaf, o ystod eang o oedrannau a demograffeg cymdeithasol.
“Mae’r defnydd o steroidau anabolig, ynghyd ag ystod o gyffuriau sy’n gwella delwedd a pherfformiad, yn gysylltiedig ag ystod amrywiol o niweidion corfforol a seicolegol.
“Y prif bryder ydy’r effeithiau tymor hir posib, gan gynnwys cyflyrau corfforol fel clefyd cardiofasgwlaidd, newidiadau i gortecs yr ymennydd, ac amhariad i gynhyrchu testosteron, ynghyd â niweidion seicolegol fel dibyniaeth, iselder a ymosodedd.
“Efo’r mwyafrif o steroidau anabolig a chyffuriau sy’n gwella delwedd a chyflawniad yn cael eu cynhyrchu yn anghyfreithlon yn gyffredinol, dydy o ddim yn bosib i unrhyw un sy’n prynu’r sylweddau hyn wybod yr union gynnwys yr hyn maen nhw’n ddefnyddio. Efallai bod y cyffuriau yn wahanol i’r cynnwys a nodir, neu’n ddos o gryfder gwahanol. Mae effeithiau niweidiol yn aml yn gysylltiedig â chynhwysion gweithredol penodol, felly mae’n anodd lleihau’r niweidion posib.”
Ychwanegodd y Ditectif Wynne: “Yn ogystal, mae tua un ymhob 50 o bobl yn gallu cael eu heffeithio gan gyflwr o'r enw Anhwylder Dysmorffig y Corff, sy’n ymddangos fel gofid dwys ynglŷn â chredu bod nam ar sut maen nhw’n edrych, yn aml ynglŷn â maint y cyhyrau.
“Mi fydd dioddefwyr yn credu nad ydy eu cyhyrau’n ddigon mawr, er eu bod yn ymddangos yn fawr i unrhyw un arall. Mae’r gofid a’r cywilydd ynglŷn â’r hyn a gredir o fod yn ddiffyg cyhyrogrwydd yn gallu arwain at ymddygiad dinistriol ac awchus, ac enghraifft o hyn ydy camddefnyddio steroidau. Mi fuaswn yn annog unrhyw un sydd methu ymdopi â’r cyflwr hwn i ofyn am gymorth drwy wefan y BDD yma https://bddfoundation.org/ .
“’Dwi’n croesawu dedfryd heddiw, a ‘does dim amheuaeth ein bod ni wedi cael effaith fawr ar gael gwared ar risg niwed sylweddol i’n cymunedau. Mi wnawn ni barhau gwneud Gogledd Cymru yn amgylchfyd digroeso i’r rhai sy’n ymwneud â throseddoldeb trefnedig.
“’Dwi’n teimlo ei fod yn hanfodol bod yr ymchwiliad hwn yn cael ei ddefnyddio fel llwyfan pellach er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â niweidion defnyddio a chamddefnyddio steroidau yn y DU.”