Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae brawd dyn a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn Wrecsam yn 2013 wedi rhannu ei stori wrth i heddluoedd ar draws y DU wrthsefyll troseddau cyllyll.
Bu farw Craig Maddocks ar ôl iddo gael ei ymosod yn nhafarn y Cambrian Vaults ym mis Mehefin 2013.
Cafwyd Francesco John Prevet yn euog o’i lofruddio ac fe gafodd ei ddedfrydu i 23 mlynedd yn y carchar.
I gyd-fynd â Sceptre – menter genedlaethol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth am droseddau cyllyll, mae Danny Maddocks yn siarad am effeithiau dinistriol troseddau cyllyll a’r gwaith y mae’n ei wneud er mwyn atal teuluoedd eraill rhag dioddef tor calon.
Dim ond 34 oed oedd Craig pan gafodd ei lofruddio’n giaidd ac roedd yn adnabyddus yn ei gymuned gartref yn Llai am fod yn focsiwr brwd ac yn gefnogwr brwd Clwb Pêl Droed Lerpwl.
Dywedodd ei frawd Danny: “Mae colli fy mrawd yn y fath fodd wedi bod yn ddinistriol i’r teulu cyfan.
“Dio’m yn mynd yn haws – mae pobl yn dweud y dylai ond dydy o ddim yn wir, ac er iddo ddigwydd 11 mlynedd yn ôl nid ydy’r boen byth yn diflannu.
“Mae yna ddyddiau da a dyddiau drwg. Weithiau fyddai’n gwylio’r newyddion ac yn clywed am drywanu arall ac mae’r sbardun hwnnw yno.”
Ers marwolaeth Craig, mae Danny wedi ymgyrchu llawer er mwyn ceisio mynd i’r afael â throseddau cyllyll yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae wedi gweithio’n agos hefo’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, gan ymweld ag ysgolion, clybiau bocsio a champfeydd er mwyn cyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth cyllyll i lawer o bobl ifanc yn ardal Wrecsam. Mae hefyd wedi sefydlu tudalen On the knife edge ar Facebook.
“Dwi’n hunangyflogedig, ond dwi bob amser yn barod i ymweld â grwpiau yn wirfoddol er mwyn ceisio trosglwyddo’r neges na all unrhyw ddaioni fyth ddod o gario cyllell.
“Os mae pobl ifanc yn poeni neu’n ofni siarad, dwi’n hapus i siarad efo nhw. Dydw i ddim eisiau i deulu arall ddioddef fel fi, dim ond eisiau atal pethau fel hyn rhag digwydd.
“Tydi llawer o bobl ddim yn sylweddoli bod cario cyllell yn eu gwneud nhw’n fwy tebygol o fynd i berygl difrifol. Gall cyllell waethygu pethau tu hwnt i’ch rheolaeth chi, a gwneud sefyllfa wael yn waeth o lawer.
“Fel teulu, ‘dan ni eisiau gweld newid, ac os oes angen parhau rhannu ein profiad ni a galw ar bobl ifanc godi llais, yna dyna fyddwn ni’n ei wneud.”
“Dwi’n cefnogi’r ymgyrch Sceptre yn llwyr ac yn annog unrhyw un ildio unrhyw arfau i’r biniau amnest arbennig sydd ar gael ar draws gogledd Cymru.”
Dywedodd y Prif Arolygydd Siobhan Edwards o Hyb Atal Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni ei wneud er mwyn atgyfnerthu'r neges fod cario cyllell yn annerbyniol. Ni ddaw daioni o gario un.
“Mae bob achos sy'n cynnwys cyllell â chanlyniadau i bawb sydd yn gysylltiedig. Mae hon yn broblem ‘da ni’n ei chymryd hi’n hynod ddifrifol.
“Hoffwn i ddiolch i Danny am ei gefnogaeth barhaus a’i gymeradwyo am ei waith gwirfoddol yn ein cymunedau ni er mwyn ceisio atal dioddefwyr pellach.
"Tra mae achosion a chymhellwyr troseddau cyllyll yn gymhleth, mae ymyrraeth gynnar a gosod mesurau er mwyn ymdrin â'r gwir achosion yn gwbl hanfodol. ‘Da ni’n ymroddedig ymdrin yn gydweithredol hefo mynd i'r afael â throseddau cyllyll ledled gogledd Cymru. Gwnawn ni barhau'r gwaith llwyddiannus hefo’n partneriaid ni a chymunedau.”
Nodiadau:
Mae Sceptre, yn ymgyrch genedlaethol sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn ac sy’n cael ei chydlynu gan CCPSH (Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu).
Mae biniau arbennig yn cownteri blaen y gorsafoedd heddlu canlynol:
Eleni, mae sawl Canolfan Ailgylchu ar draws y rhanbarth yn cymryd rhan yn yr ymgyrch a gall cyllyll hefyd gael eu hildio yn y mannau canlynol:
Ynys Môn a Gwynedd:
Conwy a Sir Ddinbych:
Wrecsam a Sir y Fflint: