Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymchwiliad wedi’i lansio ynglŷn â lladrad yng Nghoedpoeth.
Am 9.41am heddiw (dydd Mercher, 13 Tachwedd), mi dderbyniom hysbysiad bod dau unigolyn o dan amheuaeth wedi mynd i fferyllfa ar y Stryd Fawr, ac wedi mynnu arian o’r til, cyn dianc ar droed.
Mi gredir eu bod wedi rhedeg i fyny Gallt Tabor, a throi i’r dde tuag at Neuadd y Plwyf.
Mae chwiliadau i’w canfod ar y gweill.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Roberts: “’Da ni’n dilyn nifer o ymholiadau fel mae’n hymchwiliad i’r digwyddiad, a’n hymdrechion i ddarganfod y rhai o dan amheuaeth, yn parhau.
“Mi hoffwn i dawelu meddwl y gymuned bod digwyddiadau o'r fath yn anghyffredin yn Wrecsam, a ‘da ni’n deall nad oes bygythiad ehangach i’r gymuned.
“’Dwi’n ddiolchgar i’r rhai sydd eisoes wedi rhoi gwybodaeth i ni, sydd wedi ein helpu ni efo’n ymholiadau.
“’Dwi rŵan yn gofyn i unrhyw un efo gwybodaeth neu unrhyw un efo camerâu TCC neu fideo camera cerbyd yn ardal y Stryd Fawr, Gallt Tabor, neu Ffordd y Parc, i gysylltu efo ni drwy ein gwefan, neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio’r cyfeirnod Q171369.
“Gallwch hefyd gysylltu’r elusen annibynnol CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”