Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mi gafodd bobl ifanc o Iwerddon groeso cynnes gan swyddogion Porthladd Caergybi yn gynharach yr wythnos yma, ar eu ffordd ar daith thema Disney arbennig.
Ar ôl cysylltu efo staff Make-a-Wish Ireland, aeth swyddogion Porthladd Caergybi at y llong Irish Ferries, Ulysses, i gyfarfod a chroesawu gwirfoddolwyr y sefydliad.
Mae Make-a-Wish Ireland yn gwireddu dymuniadau plant rhwng 3 ac 17 mlwydd oed, sy’n byw efo cyflyrau sy’n peryglu eu bywydau.
Ar eu ffordd i’r “Disney Wish Experience” hudol, yn Hoar Cross Hall, Burton-upon-Trent, daeth 37 o blant , efo’u rhieni / gwarchodwyr a’r gwirfoddolwyr oddi ar y llong ar ddau fys, dau ambiwlans a bws mini.
Mi gawson nhw osgordd golau glas o’r llong at ffiniau’r porthladd, lle wnaethon nhw gyfarfod â swyddogion Ymateb Caergybi.
‘Roedd y plant a’r gwirfoddolwyr wrth eu boddau efo’r profiad!
Dywedodd Sharon O’Connor, Prif Wirfoddolwr Make-a-Wish Ireland: ”Diolch yn fawr oddi wrth bawb yn Make-a-Wish am drefnu i’n cyfarfod ni a’n croesawu ni’r bore ‘ma. ‘Roedd yn hyfryd i’r holl deuluoedd.
Dyma’r drydedd flwyddyn ‘da ni wedi teithio draw efo’r teuluoedd, ond y flwyddyn gyntaf i ni deithio ar long. Mae plant yn y grŵp na fuasai’n medru cymryd rhan oni bai ein bod ni wedi teithio’r ffordd hyn.”