Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn yr apêl a rannwyd ar y penwythnos yn ymwneud â gofidion bod person wedi mynd i mewn i Afon Menai, ni chafodd neb ei adnabod ac ni welwyd unrhyw berson bregus o gwmpas y bont ar adeg yr adroddiad.
Serch hynny, rydym yn apelio ar rai a oedd yn yr ardal tua 11pm i siarad â ni er mwyn cadarnhau a gafodd rhywun ei weld.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Gibson: “Drwy ymholiadau, credwn fod dyn wedi cerdded ar hyd y bont rhwng 10:54-10:59pm, o bosib yn cario 'rucksack' ar ei gefn ac wedi troi i gyfeiriad Porthaethwy.
"Rydym hefyd yn ymwybodol bod grŵp o bedwar o bobl, credi mai dau ddyn a dwy ddynes oeddent wedi gadael yr Anglesey Arms am 10:53pm gan gerdded ar y bont tuag at y tir mawr.
“Hoffem siarad â'r unigolion hynny gan eu bod ar y bont ar y cyfnod allweddol ac mae'n bosib bod ganddynt wybodaeth pwysig. Os ydych yn gwybod pwy ydynt, neu os mai chi yw'r bobl hyn, cysylltwch â ni."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai ein cynorthwyo, cysylltwch â'r heddlu drwy'r wefan, neu ar 101 gan ddefnyddio cyfeirnod Q082838.