Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn, 50 oed, wedi cael ei arestio yn dilyn digwyddiad mewn tŷ tafarn ym Mangor nos Sul.
Aeth yr heddlu i’r Castle Hotel, Glanrafon, Bangor, yn toc wedi 7pm ar nos Sul 9 Mehefin, yn dilyn adroddiadau bod dryll tanio wedi’i weld.
Cafod dyn lleol ei arestio ar amheuaeth o fod ym meddiant dryll tanio ffug efo’r bwriad o achosi braw, ac mi gafodd arf aer ei atafaelu.
Dywedodd yr Arolygydd Dros Dro, Andy Davies: “Hoffwn ddiolch i aelodau’r gymuned am eu help a’u dealltwriaeth tra ‘roedd yr heddlu’n bresennol yng nghanol dinas Bangor neithiwr.
“‘Da ni’n deall bod hyn wedi achosi pryder ymhlith preswylwyr, p’run bynnag, hoffwn dawelu meddwl y cyhoedd mai digwyddiad unigryw yn ymwneud â dryll tanio ffug oedd hyn, ac nid oes pryderon parhaus i’r gymuned.
“Bydd patrolau amlwg yn yr ardal heddiw, er mwyn tawelu meddwl”.