Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Uned Troseddau’r Ffyrdd Heddlu’r Gogledd unwaith eto yn cynnal gweithdai poblogaidd wedi’u hanelu at gadw beicwyr modur yn ddiogel ar y ffyrdd.
Mae cynllun BeicioDiogel (BikeSafe) yn brosiect sy’n cael ei arwain gan yr heddlu er mwyn datblygu sgiliau beicio allweddol. Mae’r gweithdai, diwrnod o hyd yn cynnwys sesiwn yn y dosbarth, yn edrych ar wrthdrawiadau a sut i’w hosgoi ac yn cynnwys asesiad ymarferol lle bydd beicwyr yn derbyn adborth hanfodol.
Mae’r gweithdai BeicioDiogel yng Ngogledd Cymru yn cael cymhorthdal gan Heddlu Gogledd Cymru a Phartneriaeth Diogelwch y Ffyrdd y rhanbarth ac maent ar gael am ffi o £65 ar gyfer pob beiciwr.
Mae’r gweithdai yn cael eu arwain gan feicwyr modur profiadol yr heddlu, ynghyd â gwirfoddolwyr BeicioDiogel sydd wedi eu cymeradwyo, a fydd yn edrych ar faterion megis cornelu, safle ar y ffyrdd, arsylwad, canfyddiad peryglon a llawer mwy.
Bydd cofrestru am 08:45 ac wedyn mi fydd y sesiwn ddosbarth rhwng 09:00 a hanner dydd. Mi fydd y beicwyr wedyn yn mynd allan i feicio ac yn cael e hasesu ar gymhareb o 2:1 rhwng 13:00 a 16:00.
Mae’r gweithdai ar gael ar y dyddiau canlynol:
Dywedodd yr Arolygydd Iwan Roberts o Uned Troseddau’r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru: “Mae hwn yn brosiect hynod o bwysig oherwydd, yn anffodus, yn aml rydym yn gweld bod beicwyr modur yn nodwedd anghyfartal yn ein ystadegau gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.
“Gyda’r prif nod o leihau’r nifer o feicwyr sy’n cael eu hanafu ar y ffyrdd, mae’r gweithdai yn rhoi sylw i’r prif beryglon y mae beicwyr yn eu hwynebu. Drwy wneud cyflwyniadau theori a theithiau sy’n cael eu goruchwylio, mae gweithdy Beicio Diogel yn rhoi cyfle i feicwyr ddarganfod eu cryfderau a’u gwendidau.
“Rydym yn annog beicwyr i feddwl am gofrestru ar weithdy, lle byddant yn eistedd yn ymyl beicwyr brwdfrydig eraill sydd â phrofiad, sgiliau ac amrywiaeth o feiciau. Boed eich beic yn un cymudo, sgwter neu feic pwerus, mae croeso mawr i bawb ac mi fydd pawb yn elwa o’r sgiliau ar gyfer y tymor beicio a thu hwnt.”
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb ymweld â’r wefan yma: North Wales Police - BikeSafe