Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
“PC Tom Davies dw i, yn seiliedig yng Ngorsaf Heddlu Dolgellau ac yn gweithio yn ne Gwynedd. Mae hyn yn golygu fy mod i’n gyfrifol am ardaloedd Bala i Dywyn, y Bermo i Harlech, Trawsfynydd i Ddolgellau a phopeth yn y canol.
Dw i wedi bod yn gweithio yn Heddlu Gogledd Cymru nawr am 2 flynedd, gan ddechrau fy ngyrfa flwyddyn yn ôl yng Nghaernarfon.
Nid oedd plismona yn rhywbeth ro’n i wedi bwriadu gwneud gan i mi ddechrau fy ngyrfa fel mecanic yn 16 oed. Ond wrth symud ymlaen dechreuais gymryd mwy o ddiddordeb yn yr Heddlu a sylweddolais bod ymuno yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth yn y gymuned a helpu pobl. Dechreuais ar fy llwybr ym maes plismona gyda’r tîm ymateb, gan fynd i alwadau 999 a galwadau blaenoriaethol 101.
Credaf bod hwn yn swydd ardderchog yn enwedig ar ddechrau gyrfa ym maes plismona gan ei fod yn ehangu eich gwybodaeth o nifer o droseddau a gwaith y mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi eu gwneud. Mae pob diwrnod yn wahanol. Gallech fod yn delio ag ymladd ac anghydfod rhwng cymdogion un diwrnod ac ar ddiwrnod arall yn delio gydag achos o drais yn erbyn merched a genethod ac yn cymryd camau i ddiogelu dioddefwyr.
Uchafbwynt i mi yn ystod fy nghyfnod yn ymateb oedd delio â rhywun yn ceisio torri i mewn i eiddo yn y Bermo. Llwyddais i a fy nghydweithiwr i ymateb yn gyflym gan ddechrau chwilio am y person ar unwaith. Cafodd ei ddedfrydu ymhellach ymlaen am y weithred. Roedd hi’n wych gallu diogelu’r cyhoedd rhag niwed a dal yr un o dan amheuaeth a’i roi o flaen ei well am ei ymddygiad.
Fel swyddog ymateb, chi yw’r cyntaf i gyrraedd digwyddiad fel arfer a chi sy’n gorfod ymgysylltu â’r cyhoedd a bod yn bwynt cyswllt. Mae digon o amrywiaeth yn y swydd ac nid oes un diwrnod yr un fath. Credaf bod hwn yn rôl hanfodol o fewn plismona a dw i’n mwynhau pob diwrnod. Mae heriau o fewn y rôl fel ymhob swydd, ond pan fyddwch yn gweithio gyda thîm da o swyddogion, SCCH a staff mae modd wynebu’r heriau hyn ac rydym yn gweithio gyda’n gilydd yn darparu’r ymateb gorau ar gyfer y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethau er mwyn cadw pobl yn ddiogel a delio â throseddau yn effeithiol.
Credaf mai’r rhan mwyaf heriol o’r rôl, yn enwedig yn ne Gwynedd yw bod yn gyfrifol am ardal mor eang sy’n cynnwys trefi poblog a phentrefi bach a’r ffaith bod y boblogaeth yn cynyddu bedair gwaith ei maint yn ystod yr haf. Rhoi’r gwasanaeth gorau i’r trigolion i gyd yw fy mhrif flaenoriaeth ac rydym ni fel tîm yn ceisio gwneud hynny ar bob sifft.
Rwyf wedi bod ar nifer o gyrsiau hyfforddi i fy nghynorthwyo yn fy rôl fel ANPR (adnabod platiau rhif car yn awtomatig), hyfforddiant PNC (Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu) a mwy. Mae hyn yn fy nghynorthwyo yn fy ngwaith bob dydd gan fy mod yn gallu gweud ymholiadau yn gynt heb angen aros am arbenigwr ac felly yn gallu ymateb i droseddau yn gynt mewn amgylchiadau arbennig. Dw i hefyd yn gallu helpu fy nghydweithwyr gyda phroblemau TG ac yn gallu sicrhau bod ein systemau yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithiol ac yn rhoi’r gwasanaeth gorau i’r rhai sydd wedi dioddef trosedd.”
‘Da ni’n #recriwtio swyddogion heddlu ymuno efo ni ar y timau ymateb. Cliciwch yma i wneud cais - Police Constable 2024 E - Police Jobs Wales (tal.net)