Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
“PC Nicola Jones dw i a dw i’n gweithio o Orsaf Heddlu Llangefni. Dw i wedi bod yn Swyddog Heddlu am bedair blynedd gan ymuno yn 2020. Cyn hynny ro’n i’n SCCH am dair blynedd.
Dw i’n meddwl mai swyddog ymateb ydy’r rôl fwyaf cyffrous ym maes plismona. Fel swyddog ymateb does dim syniad gennych sut ddiwrnod y byddwch yn cael. Mae hyn yn gyffrous ac yn rhan o’r her!
Gweithio ar fy rota ar Ynys Môn ydy uchafbwynt fy ngyrfa hyd yn hyn. Mae’r tîm dw i’n gweithio gyda nhw fel teulu i mi ac yn gwneud gweithio ar ddyddiau gwael yn werth chweil. Dan ni’n chwerthin ar bob sifft dw i’n meddwl. Mae nhw wedi bod gyda mi drwy dyddiau da a’r dyddiau drwg a dw i’n gwybod y byddant yno i mi yn y dyfodol.
Be dw i’n hoffi fwyaf am ymateb ydy bod yn rhan o dîm a gwybod y byddant yno i fy nghefnogi bob amser. Dan ni gyd yn dechrau ein gyrfaoedd plismona yn yr un lle a dyma ble dan ni’n dysgu sgiliau gwerthfawr a fydd yn mynd â ni i’r swydd nesaf. Dyma asgwrn cefn plismona.
Y peth mwyaf heriol i mi am y swydd ydy’r hyn dan ni’n gorfod gweld. Ni all yr holl hyfforddi yn y byd ein paratoi ni ar gyfer rhai pethau ac ar y dechrau mae’n gallu bod yn anodd gadael y gwaith ar y stepen drws. Ond dach chi’n dysgu sut i ymdopi ac mae’r tîm yn eich helpu drwy holl beth.”
Ydy plismona ymateb yn swnio fel y swydd i chi? Cliciwch yma i wneud cais – Police Constable 2024 E - Police Jobs Wales (tal.net)