Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
“Fi ydy Cwnstabl Williams, a ‘dwi’n gweithio yng ngorsaf y Rhyl ar hyn o bryd. ’Dwi wedi bod yn swyddog ers pedair mlynedd a hanner, yn cychwyn efo’r Heddlu Niwclear Sifil yn Cumbria, cyn symud at Heddlu Gogledd Cymru dwy flynedd yn ôl.
Plismona arfog oedd fy rôl yn yr HNS, wedi fy lleoli mewn un safle, yn bennaf, ac ‘roedd yn fwy o rôl amddiffynnol. ‘Roeddwn erioed wedi bod eisiau gwneud plismona cyffredinol, ac i fedru ymchwilio amrywiaeth o droseddau, ac i ddysgu elfennau sylfaenol plismona. ‘Roeddwn eisiau ymgysylltu efo’r cyhoedd, felly ‘roeddwn i’n meddwl buasai plismona ymateb yn ffordd ardderchog o gyfuno fy nymuniadau o wasanaethu’r cyhoedd ac ymchwilio i amrywiaeth o droseddau.
Mae’n rhaid mai un o’r uchafbwyntiau pennaf ydy digwyddiad penodol es iddo, pan mai fi oedd y cyntaf i gyrraedd byrgleriaeth posib. Mi gliriais i’r adeilad ac ymchwilio’r CCC, yna cysylltu efo fy nghydweithwyr oedd wedi casglu’r dystiolaeth CCC, ac mi wnes i gwblhau ffeil yr achos ac mi wnaeth y troseddwyr ymddangos yn y llys.
‘Dwi’n mwynhau plismona ymateb, oherwydd amrywiaeth y digwyddiadau a pha mor ddeinamig gall pethau fod pan mae’n prysuro. Dwi’n meddwl mai hwn ydy’r rôl bwysicaf, oherwydd mai dyma be’ mae’r cyhoedd yn ei weld, efo pwy mae nhw’n siarad, ac mewn llawer o achosion, eu hargraff gyntaf o’r heddlu. Mae cychwyn prydlon ac effeithiol gan swyddogion ymateb yn medru achosi llwyddiant neu aflwyddiant ymchwiliad, yn fy marn i.
Fel ymhobman, mae herion yn ymwneud â diffyg staff a galw uchel, ond ‘da ni wastad yn trio rhoi’r gwasanaeth gorau fedrwn i’r cyhoedd.
‘Dwi hefyd yn chwarae rygbi i’r heddlu, ac wedi bod yn ddigon lwcus i gynrychioli Heddlu Cymru a Heddlu Prydain, ‘dwi’n teimlo’n lwcus iawn fy mod wedi medru teithio i gynrychioli fy ngwlad yn y gem ‘dwi wrth fy modd efo, ac hefyd i wneud hynny fel swyddog heddlu.
Mae plismona ymateb yn rhoi blas ar bob math o droseddau (ymysg pethau eraill), a ‘dwi’n meddwl ei fod yn ffurfio sylfaen dda i unrhyw un, ac yn caniatáu i swyddogion weithio ar be’ sy’n eu diddori, tra hefyd yn ymchwilio amrywiaeth o droseddau.”
Efo diddordeb mewn ymuno fel swyddog heddlu? ‘Da ni’n #recriwtio rŵan! – Police Constable 2024 E - Police Jobs Wales (tal.net)