Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gyda cystadleuaeth UEFA Ewro 2024 ar y gweill, mae Heddlu Gogledd Cymru yn darparu adnoddau ychwanegol i ymdrin â cham-drin domestig yn ystod y twrnament a dros gyfnod yr haf.
Mae Ymgyrch Webb yr heddlu yn gweld adnoddau ychwanegol ar shifft er mwyn helpu hefo’r galw ychwanegol ac mi fyddent yn parhau i weithredu yn erbyn troseddwyr sy’n cyflawni cam-drin domestig.
Mae ymchwil yn dangos bod gemau pêl-droed arwyddocaol yn arwain at gynnydd yn riportio cam-drin domestig, waeth beth fydd canlyniad y gêm.
Tra nad yw Cymru yn cymryd rhan yn y twrnament eleni, yma yng Ngogledd Cymru bydd nifer fawr o gefnogwyr pêl-droed yn dilyn y twrnament.
Mi fydd dau Dditectif Ringyll ychwanegol ar gael yn ystod gemau pêl-droed allweddol, er mwyn goruchwylio’r lefelau o gam-drin domestig sy’n cael eu riportio, ac i fod ar gael i siarad â swyddogion sy’n ymateb er mwyn darparu cymorth arbenigol a chanllawiau ymchwiliol. Mi fydden nhw’n cael cynorthwyaeth gan dimau trais domestig arbenigol a phartneriaid, er mwyn diogelu a rhoi cymorth i’r rhai bydd o’i angen.
Nod y dull ffocysu hwn yw sicrhau cysondeb dan arweiniad ditectif i bob digwyddiad, drwy sicrhau bod swyddogion yn darparu gwasanaeth ragorol i ddioddefwyr a bod camau cadarn yn cael eu cymryd yn erbyn troseddwyr.
Dywedodd Dditectif Arolygydd Tracey Llewellyn, o Uned Diogelu Pobl Ddiamddiffyn Heddlu Gogledd Cymru: “Mae gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel yn eu cartref, wrth eu gwaith neu tra allan. Ni fydd cam-drin domestig o unrhyw fath yn cael ei oddef. Mi wnawn ni wrando ac ymlid y troseddwyr.
“Mae cyflwyno swyddogion ymroddedig dros gyfnod yr haf ac yn ystod gemau pêl-droed allweddol yn golygu bod adnoddau ychwanegol ar gael er mwyn ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau o gam-drin domestig, beth bynnag ydy’r galw cydymgeisiol ar draws yr heddlu, mewn modd proffesiynol a rhagweithiol.
“Gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un, beth bynnag ydy'u hethnigrwydd, eu hoed, eu rhyw, eu rhywioldeb neu eu cefndir cymdeithasol. Os ydych chi’n dioddef camdriniaeth corfforol, rhywiol, seicolegol neu ariannol, neu'n cael eich bygwth, eich brawychu neu’ch stelcio gan bartner presennol neu flaenorol neu aelod agos o'r teulu, mae'n debygol eich bod yn dioddef cam-drin domestig. Nid ydych ar fai. Nid ydych ar eich pen eich hun.
“’Da ni wedi ymrwymo i gefnogi dioddefwyr bob amser, nid yn unig yn ystod digwyddiadau chwaraeon. Os ydych chi, neu rhywun yr ydych yn ei adnabod yn dioddef, neu’n poeni, peidiwch a disgwyl. Cysylltwch â’r heddlu neu unrhyw un o’r asiantaethau eraill er mwyn cael cymorth a chynorthwyaeth.”
Os ydych chi’n dioddef cam-drin domestig, neu’n adnabod rhywun sy’n dioddef, riportiwch y mater i’r heddlu neu gallwch dderbyn cymorth gan Live Fear Free ar 0808 80 10 800.
Mae rhagor o wybodaeth a chymorth ar gael yma: Cam-drin domestig | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)