Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi siarad â gonestrwydd ynglŷn ag effeithiau dioddef trais tra wrth eu gwaith.
Gan amlygu rhai o’r sefyllfaoedd mwyaf heriol a pheryglus maen nhw wedi canfod eu hunain ynddynt, mae Arolygydd Wrecsam Wledig, Matt Subacchi, a Chwnstabl Shannon Smith wedi bod yn ddewr yn siarad amdanyn nhw fel rhan o Wythnos Plismona Ymateb.
Mae’r wythnos yn dathlu gwaith caled, ymroddiad a dewrder y rhai sy’n ymateb i alwadau oddi wrth y cyhoedd a sy’n wynebu troseddwyr ddydd a nos.
Dywedodd Cwnstabl Smith, 26, a ymunodd efo’r heddlu tair blynedd yn ôl, sut wnaeth ymosodiad “gwanhaol” achosi iddi ail-feddwl ei gyrfa yn yr heddlu.
“Mi gefais fy mrathu”, meddai. “Ond ar ben hynny, ‘roedd yna rhywfaint o gwffio, ac mi gefais anafiadau eraill fel canlyniad.
“Mi ddioddefais efo fy nghefn a’m dau ben glin, a chefais i anaf i fy llaw.
“’Roedd yn rhaid i mi fynd i’r uned ddamweiniau brys a chael gwrthfiotigau – mae hynny’n eich taro ynddo’i hun.
“Mi wnes i ddioddef efo’r anafiadau am tua tri mis. ‘Roedd yn anodd.”
Yn ystod y 12 mis diwethaf, hyd at mis Mehefin 2024, cofnodwyd dros 500 o ymosodiadau yng Ngogledd Cymru, lle’r oedd y dioddefwyr yn swyddogion, yn staff neu’n wirfoddolwyr.
“’Roeddwn i’n eithaf ifanc pan oeddwn i’n gwybod mai swyddog heddlu oeddwn i eisiau bod,” dywedodd Cwnstabl Smith.
“Ond bu adegau dros y misoedd diwethaf lle ‘dwi wedi ail-feddwl hyn, ydy o werth o, oherwydd ‘dwi wedi bod yn eithaf isel, wir.”
“Ond erbyn goroesi, a dwi’n iawn yn gorfforol rŵan, ‘dwi ddim yn difaru (bod yn swyddog) oherwydd eich bod yn helpu pobl, ac mae’n cael effaith gadarnhaol arnoch chi, hefyd – yn enwedig pan ‘da chi’n gwneud rhywbeth da i rywun, ac mae pobl yn ddiolchgar iawn am be’ ‘da ni’n ei wneud, a dyna’r ochr sydd yn rhoi boddhad.”
Mae’r Arolygydd Matt Subacchi, 36, wedi dioddef nifer o ymosodiadau yn ystod ei amser fel swyddog ymateb. Dywedodd: “Mae yna rhywfaint o, “mae’n rhan o’r rôl”. Na, dydy o ddim.
“Mae ymdrin â gwrthdaro yn rhan o’r rôl. Dydy ymosodiad ddim.
“’Dwi wedi cael fy nharo gan gerbydau, fy nharo efo batiau, wedi fy mygwth efo cyllyll, wedi fy mrathu ac wedi cael fy mhenio.
“Ond y gwaethaf oll i mi ydy pobl yn poeri yn fy wyneb i. Does dim byd mwy annifyr i mi.
“Buasai’n well gen i gael fy nharo gan gar nifer o weithiau na bod rhywun yn poeri yn fy wyneb.”
Ar ben yr effaith corfforol, mae Cwnstabl Smith yn egluro sut wnaeth hi ddioddef yn emosiynol o ganlyniad i’w hanafiadau.
“Os ‘dwi’n teimlo dan bwysau, dwi’n mynd i’r gampfa, ac mae hynny’n fy helpu.
“Ond ‘roeddwn i methu â gwneud hynny ar ôl y digwyddiad yn y gwaith, oherwydd yr anaf i fy nghefn, ‘roeddwn i methu â mynd i’r gampfa a chael lles o hynny.
“Felly, wnes i ddim ymdopi â hynny’n dda iawn. ‘Roedd yn anodd i hyd yn oed rhoi fy sanau amdanaf yn y bore, cyn dod i’r gwaith, er mwyn eistedd wrth ddesg, felly ‘roedd yn wanhaol iawn, a dweud y gwir.”
Ychwanegodd: “Mae’n rhoi straen arnoch chi. Mae’r swydd yn eich rhoi dan ddigon o bwysau fel mae, heb angen ymdopi ag anaf corfforol ac ymosodiadau, a phoeni am y tro nesaf ewch i ddigwyddiad tebyg, wnaiff rhywun ymosod arna chi eto?
“Pan fyddwch yn dod o sefyllfa, wrth edrych yn ôl rydych yn meddwl am yr holl bethau y gallech chi fod wedi gwneud, y pethau y dylech fod wedi gwneud, neu mi allai fod wedi bod yn waeth. Mi allai fod wedi digwydd fel hyn, ac yna wrth symud ymlaen rydych yn meddwl beth allai fod wedi digwydd oherwydd gall pethau fynd o’i le yn gyflym iawn.”
Ychwanegodd Arolygydd Subacchi, sy’n dad i ddau o blant ac wedi treulio 10 mlynedd fel swyddog ar y rheng flaen: “’Dwi’n meddwl mai’r peth anodd ydy mynd adref at y plant efo’r anafiadau yna.
“Mae yna fwy o berygl pan mae gennych chi deulu yn disgwyl adref amdanoch chi.
“’Da ni’n deall ein bod am fod mewn sefyllfaoedd na wnaiff y rhan fwyaf o bobl gael profiad ohonyn nhw na mynd drwyddyn nhw.
“’Da ni’n iawn efo hynny, ac yn fodlon gwneud hynny. Mae’n elfen o dyna be’ ‘da ni’n cael ein talu i’w wneud. Ond dydy hynny ddim yn ei wneud yn hawdd i gael profiad ohono fo.”
Cefnogwch y swyddogion sy’n dod i’w gwaith bob dydd i wynebu peryglon er mwyn eich helpu a’ch amddiffyn chi.