Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel rhan o’n hymdrechion parhaol ni i leihau’r risg o farwolaethau ac anafiadau difrifol yn ymwneud â beicwyr modur ar ffyrdd Gogledd Cymru, fe wnaeth swyddogion o’r Uned Troseddau Ffyrdd gynnal ymgyrch benodol dros y penwythnos gan ddefnyddio awyren yr heddlu o Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS).
Fe wnaeth swyddogion mewn ceir dargedu’r A494, yr A5 a’r A487 yn Ne Gwynedd ddoe (dydd Sul, 9 Mehefin) – sef ardaloedd sy’n ymddangos yn rheolaidd yn ein gwrthdrawiadau angheuol a difrifol.
Dywedodd y Rhingyll Dros Dro Leigh McCann: “Roedd yr awyren yn ddefnyddiol iawn yn lleoli a cyfeirio swyddogion at ardaloedd lle roedd beicwyr modur yn cael eu gweld yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
“Diolch byth, roedd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr ffyrdd yn cydymffurfio hefo’r gyfraith. Fodd bynnag, roedd y rhai a oedd yn reidio yn anghyfreithlon yn cael eu stopio gan swyddogion er mwyn cael sgwrs.
“Cafodd dros 30 o feicwyr modur gerdyn busnes Ymgyrch Apex – sy’n cynnwys cod QR sy’n eich cyfeirio at y Ride Craft Hub. Mae hon yn wefan am ddim sy’n amlygu technegau reidio diogel a’r ffactorau achosol cyffredin mewn gwrthdrawiadau beiciau modur.
“Cafodd sawl tocyn cosb penodol eu rhoi am droseddau. Roedd y rhain yn cynnwys goryrru, platiau cerbyd anghyfreithlon, dim ‘L’ ar blât cerbyd beic modur, dim yswiriant, dim gwisgo gwregys diogelwch, golau a hysbysydd diffygiol a gyrru heb ofal ac ystyriaeth. Bu swyddogion ddelio â dau wrthdrawiad ond lle nad oedd anafiadau.
“‘Da ni’n ddiolchgar iawn i’n cydweithwyr yn yr hofrennydd am ddarparu’r llygaid yn yr awyr. Roedden nhw’n gallu darparu data byw i’n timau – drwy amlygu lle roedd beicwyr modur yn ymgynnull, ac yn bwysicach fyth, amlygu lle roedd y beicwyr modur yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
“Cafodd un grŵp mawr o feicwyr eu stopio yn ardal Tanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog oherwydd eu hymddygiad nhw. Roedden nhw wedi synnu dysgu fod yr awyren yn eu gwylio nhw. Gwnaeth yr awyren hyd yn oed hedfan yn isel iddyn nhw gael ei gweld ac roedd hyn yn effeithiol iawn.”
Fe ychwanegodd: “Mae lleihau anafiadau ar y ffyrdd yn un o’n prif amcanion ni. Fe fyddwn ni’n canolbwyntio ein hymdrechion ni ar geisio lleihau gwrthdrawiadau drwy fabwysiadu dull dim goddefgarwch. Fodd bynnag, hoffwn i ddiolch i’r rhan helaeth o fodurwyr oedd yn gyrru a reidio yn gyfreithlon.”
Fe gafodd Ymgyrch Darwen ei lansio yn gynharach eleni. Mae’n ymgyrch sydd wedi’i hanelu at hyrwyddo diogelwch beicwyr modur hefo patrolau gan swyddogion ar hyd ffyrdd allweddol sy’n cael eu nodi fel ardaloedd peryglus.
Yn 2023 cafodd 89 o feicwyr modur eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn gynnydd o 3.4% o’r flwyddyn flaenorol a chynnydd o 24% o ffigyrau 2021 a 21% yn uwch na 2019. Cafodd 8 beiciwr modur eu lladd yn 2023 (cynnydd o 33% o’r flwyddyn flaenorol).
Mae beicwyr modur yn uchel yn y ffigyrau cyfanswm anafiadau. Ar gyfartaledd, maen nhw’n cynrychioli 32% o’r rhai sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd y rhanbarth – cynnydd o 5%. Mae gwrthdrawiadau wedi gweld cynnydd blynyddol ac ar ei uchaf ers 2020.
Dywedodd yr Arolygydd Dros Dro Jason Diamond, sy’n arwain Ymgyrch Darwen ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Mae beicwyr modur ymhlith y grwpiau o ddefnyddwyr y ffordd sydd fwyaf bregus, ac maen nhw mewn mwy o berygl o gael eu hanafu ac o fod mewn gwrthdrawiadau na defnyddwyr eraill y ffordd. Er nad ydy beicwyr modur ar fai o bosibl, mae natur fregus y drafnidiaeth yn golygu eu bod yn dioddef anafiadau mwy difrifol mewn gwrthdrawiad.
“‘Da ni’n edrych ar fodurwyr fel rhan o Ymgyrch Darwen. Fodd bynnag, dros fisoedd y gwanwyn a’r haf byddwn ni’n canolbwyntio ar ddiogelwch beicwyr modur wrth i nifer fawr ohonyn nhw fanteisio ar y tywydd da a’r golygfeydd gwych sydd gynno ni yma yng ngogledd Cymru.
“Mae pob marwolaeth ac anaf difrifol yn cael effaith ddinistriol. Felly fe wnawn ni ddefnyddio pob cyfle posib i siarad hefo beicwyr modur am sut y gallan nhw chwarae eu rhan nhw er mwyn lleihau marwolaethau ac anafiadau sy’n cael eu dioddef gan fodurwyr. Mae hyn yn cynnwys teithio ar gyflymder addas ar gyfer amodau’r ffyrdd, gwisgo dillad addas gan gynnwys helmed a bod yn ymwybodol o’r effaith y gall alcohol/cyffuriau gael ar feiciwr/gyrrwr.
“Nid trio eich atal rhag reidio ar ein ffyrdd ‘da ni, ond ceisio eich atal chi rhag cael eich lladd. Dewch yma, reidiwch yn ddiogel, ewch adref, a gwneud yr un peth dro ar ôl tro. Dewch yma, reidiwch yn beryglus, colli eich trwydded – neu eich bywyd. Eich dewis chi.”
Mae modurwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o feicwyr modur yn ystod eu siwrne a sicrhau eu bod nhw’n caniatáu digon o le wrth ddilyn beicwyr. Mae gyrwyr hefyd yn cael eu hannog i chwilio am feicwyr wrth dynnu allan o gyffordd.
Mae beicwyr hefo rhan allweddol er mwyn sicrhau eu diogelwch drwy yrru ar y cyflymder sy’n addas ar gyfer y ffordd, edrych ar amodau ffyrdd a thraffig, gwisgo dillad llachar a gwisgo helmed diogelwch a’r dillad cywir.
Anogir beicwyr modur fanteisio ar y gweithdai Beicio Diogel sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn. Gallwch chi archebu ar www.bikesafe.co.uk