Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynhaliwyd cynhadledd a diwrnod ymgysylltu ar gyfer Swyddogion Heddlu Gwirfoddol Heddlu Gogledd Cymru dros y penwythnos a oedd yn cyd-fynd gyda dechrau'r Wythnos Gwirfoddoli Genedlaethol. Thema eleni ydy "Adlewyrchu, Ail-osod, Ail-ddechrau."
Dechreuodd y dydd yn canolbwyntio ar 'Adlewyrchu'; yn edrych yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf a'r ymdrechion gwych gan ein gwirfoddolwyr, roedd hwn yn arbennig o berthnasol wrth i Heddlu Gogledd Cymru ddathlu 50 mlynedd eleni. Roedd y prynhawn yn canolbwyntio ar safle cyfredol ein Swyddogion Gwirfoddol ac uchelgais ein Gwirfoddolwyr wrth fynd ymlaen.
Roedd y diwrnod yn llawn sesiynau rhyngweithiol yn edrych ar beth i wneud orau i gefnogi ein swyddogion a sut y gallwn wneud y gorau o Swyddogion Gwirfoddol i wneud gwirfoddoli mor fuddiol â phosib.
Braint oedd croesawu Dr Iain Britton fel siaradwr gwadd yn y gynhadledd. Academydd blaenllaw yw Dr Britton ym maes plismona gwirfoddol, sydd wedi gwneud gwaith ymchwil eang yn y DU ac yn rhyngwladol, yn helpu gwella a datblygu gwirfoddoli ym maes plismona. Roedd yn siaradwr gwadd allweddol yn canolbwyntio ar ein thema Adlewyrchu ac mi wnaeth hwyluso un o'n gweithdai yn y prynhawn yn edrych ar symbylu a chadw.
Croesawyd Y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman i'r llwyfan i siarad am flaenoriaethau Heddlu Gogledd Cymru a sut mae'r Swyddogion Gwirfoddol yn ein helpu i gyflawni hyn. Dywedodd Prif Gwnstabl Blakeman "Roedd hi'n wych gweld cymaint o'n Swyddogion Gwirfoddol gyda'i gilydd y penwythnos hwn yn trafod eu gwaith. Gan mai hwn yw dechrau Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr roedd hi hefyd yn fraint gallu diolch i'n Swyddogion Heddlu Gwirfoddol am eu hymroddiad a'u cyfraniad."
"Roedd hi'n gyfle gwych i'r Swyddogion Gwirfoddol adlewyrchu ar eu gwaith dros y blynyddoedd diwethaf a'r hyn sy'n digwydd yn genedlaethol ac yna clywed am yr angerdd a'r egni sydd ganddynt wrth edrych ymlaen at y dyfodol.
Un o gryfderau allweddol y Swyddogion Gwirfoddol yw eu bod yn dod o gefndiroedd gwahanol gyda gwledd o brofiadau amrywiol. Maent yn dod â rhywbeth unigryw i'w rôl sy'n helpu cyfrannu tuag at ein gweledigaeth o wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld yn y DU".
Roedd y gynhadledd yn cyd-redeg â dathlu 40 mlynedd o Wythnos Gwirfoddoli Genedlaethol; wythnos i ddathlu cyfraniad gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith ardderchog yn eu cymunedau ar draws y DU.
Dywedodd y Prif Swyddog Gwirfoddol Mark Owen: "Un o'r pethau a wnaeth greu argraff arna i fwyaf yn y gynhadledd oedd ei fod yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr o'r Gwnstabliaeth Wirfoddol ar gyfer y Gwnstablaeth Wirfoddol. Oherwydd hynny roedd yn canolbwyntio ar y materion hynny mae ein Swyddogion Gwirfoddol wedi dweud wrth y trefnwyr maent am drafod gan roi llais iddynt wrth i ni edrych i wella Cwnstabliaeth Wirfoddol Heddlu Gogledd Cymru."
Allech chi fod yn Swyddog Heddlu Gwirfoddol? Cliciwch yma i ymgeisio - Volunteer (Special) Constable - 2024 Intakes (C) - Police Jobs Wales (tal.net)