Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a wnaeth ddwyn gemwaith gwerth miloedd o bunnau ar ôl torri i mewn i gartref yn Wrecsam wledig wedi cael ei garcharu.
Fe ddedfrydwyd Ian Wyn Edwards, 58, i dwy mlynedd am y drosedd yn Llys y Goron Caernarfon heddiw (dydd Iau, 6 Mehefin).
Digwyddodd y fyrgleriaeth fis diwethaf mewn tŷ ym Mroncysyllte ar ddydd Llun, 6 Mai pan gafodd arian a gemwaith eu dwyn o sêff i fyny'r grisiau.
Cafodd ei adnabod fel yr un o dan amheuaeth gan swyddogion yn gyflym a'i arestio.
Yn dilyn ei arestio, cyfaddefodd i'r drosedd cyn i'r gemwaith gael ei ddarganfod mewn coedwig a'i ddychwelyd at y perchennog.
Dywedodd PC Lauren Halliwell o'r Tîm Troseddau Blaenoriaethol: “Roedd y fyrgleriaeth hon yn ddigwyddiad ofnadwy i'r teulu gan fod y dioddefwyr yn ofni eu bod wedi colli gemwaith o werth sentimental.
Yn dilyn gwaith dyfal a chaled y swyddogion, CID a'r tîm byrgleriaeth yn dilyn yr arestiad llwyddwyd i adfer yr eitemau a gafodd eu dwyn a'u dychwelyd i'r perchnogion.
“Mae byrgleriaethau yn cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr a fy neges i i'r rhai sy'n troseddu fel hyn yng Ngogledd Cymru yw y byddwch yn cael eich dal ac yn cael eich rhoi o flaen eich gwell.
"Rwy'n ddiolchgar i'r Llys am roi dedfryd o garchar yn yr achos hwn a gobeithio y bydd hyn yn gysur i'r dioddefwyr."