Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 51 oed wedi ei garcharu ar ôl cynnau tan yn ei gartref ei hun, ac yna’i adael.
Ymddangosodd Marcus Rahilly, o Green Terrace, Trefor, yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug heddiw, dydd Llun 17 Mehefin, ar ôl ei ganfod yn euog o gynnau tân bwriadol, efo’r bwriad o beryglu bywyd.
Toc ar ôl 3am ar 11 Hydref, 2023, mi gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn cartref yn Green Terrace yn Nhrefor.
‘Roedd Rahilly, oedd yn denant yn yr eiddo cymdeithas dai, wedi cynnau tân ar ddillad yn yr ystafell wely cyn gadel yr adeilad.
Llai na dau funud yn ddiweddarach, dechreuodd y larwm tân. Clywodd cymydog y larwm, ac aeth i fewn i’r adeilad i ganfod y tân yn lledaenu.
Mi wnaeth hi gysylltu efo’r gwasanaeth tân yn gyflym, ac ‘roedden nhw’n medru dod â’r tân o dan reolaeth, a’i atal rhag lledaenu drwy’r rhes o dai cyfan, gan ddiogelu’r preswylwyr eraill.
Mi gafodd ei garcharu am dair mlynedd a chwe mis.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Jamie Atkinson: “’Roedd hwn yn ddigwyddiad byrbwyll a pheryglus, lle cafodd dân bwriadol ei gynnau ynghanol rhes o dai.
“Oni bai am ddewrder a gweithrediadau cyflym cymydog cyfagos, buasai rhywun wedi’u niweidio.
“Pe bai’r tân wedi cael ei adael yn hirach, buasai’r canlyniad wedi bod yn llawer mwy difrifol.”