Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 36 oed wedi cael ei garcharu ar ôl treisio merch yn eu harddegau.
Ymddangosodd Robert Llewellyn Price o Amlwch, yn Llys y Goron, Caernarfon ddoe (dydd Iau, 6 Mehefin) ble cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd ac wyth mis am ddau achos o drais.
Cafodd hefyd orchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw am oes.
Riportiodd y dioddefwr, a oedd yn 16 ar y pryd y digwyddiadau i'r heddlu ym mis Ebrill eleni.
Ar ôl ei denu i'w gartref ddwywaith, treisiodd Price y ferch ar y ddau achlysur cyn iddi ddweud wrtho ei bod hi'n ofni ei bod hi'n feichiog.
Dywedodd y buasai hi 'mewn trwbl" tasai hi'n dweud wrth unrhyw un.
Ar ôl i'r dioddefwr riportio'r ymosodiadau hyn, dihangodd Price ond cafodd ei arestio ar glogwyn yn Amlwch a'i gadw yn y ddalfa.
Dywedodd y Rhingyll Mark Dickson: “Roedd hyn yn ddigwyddiad erchyll i'r ferch ifanc hon a wnaeth ddangos dewrder rhyfeddol wrth ddod ymlaen i riportio troseddau Price.
"Dwi'n ei chymeradwyo am wneud hynny a'i chryfder drwy gydol yr achos.
"Dwi'n gobeithio y bydd hi'n gallu symud ymlaen yn ei bywyd, gan wybod y bydd Price nawr yn talu am eu ymosodiadau cywilyddus.
“Dwi'n annog pawb sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol i ddod ymlaen, gan wybod y byddwn ni'n gwneud popeth er mwyn ymlid troseddwyr a gwarchod y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni."
Ymgyrch Unite ydy ein hymateb ni i drais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma - Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru