Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 23 oed wedi ei gyhuddo yn dilyn lladrad mewn gorsaf danwydd yn Wrecsam.
Riportiwyd y digwyddiad toc cyn 12.20am ar ddydd Sul, 9 Mehefin, yng ngarej Esso ar Ffordd Wrecsam, Rhostyllen.
Cafodd Corey Li, o Rhodfa Tudur, Rhostyllen, ei arestio ac yna’i gyhuddo ddoe (dydd Mercher, 12 Mehefin) gyda lladrad ac o fod ym meddiant dryll tanio ffug efo’r bwriad o achosi ofn o drais.
Cafodd ei remandio yn y ddalfa, ac mi wnaiff ymddangos yn Llys Ynadon yr Wyddgrug bore ‘ma.
Mae ail unigolyn o dan amheuaeth dal heb fod wedi ei adnabod.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Claire Roberts: “’Dwi’n annog unrhyw un efo gwybodaeth allai helpu efo’n ymholiadau adnabod yr ail unigolyn o dan amheuaeth, i gysylltu hefo ni cyn gynted â phosib.
“Hoffwn eto dawelu meddwl y gymuned nad oes bygythiad ehangach i’r gymuned yn dilyn y digwyddiad yma.”
Dylai unrhyw un efo gwybodaeth ein cysylltu ni drwy’r wefan, neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 2400051887.