Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da ni dal i apelio am wybodaeth ar ôl cynnydd yn y nifer o ladradau beiciau modur ar draws Wrecsam.
Riportiwyd bod saith beic wedi cael eu dwyn ar draws y sir y mis hwn, ac wyth arall ym mis Mai.
Arweiniodd yr ymchwiliadau at arestio dyn 20 oed ar ddydd Sadwrn, 22 Mehefin ar amheuaeth o ddwyn beic modur.
Ers hynny mae wedi'i ryddhau ar fechnïaeth gan ddisgwyl ymchwiliad pellach.
Dywedodd Ditectif Ringyll Jenna Hughes: "Os gwelwch chi unrhyw un yn ymddwyn yn amheus yn eich ardal chi, neu fod gennych wybodaeth a allai fod o gymorth i'n hymchwiliad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl, naill ai drwy ein ffonio ni ar 101, neu drwy ein sgwrs fyw ni ar y wefan yma –
"Hoffwn annog pobl i ystyried defnyddio nifer o fesurau diogelwch ar eu beiciau i wneud pethau'n fwy anodd ac yn llai deniadol i ladron."