Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall cyfuno bod yn fam a gweithio ar ôl cael babi fod yn anodd.
Oherwydd natur plismona, mae llawer yn meddwl bod hi'n anodd cyfuno'r ddau beth.
Ond mae mamau sydd wedi dewis bwydo eu plant o'r fron yn cael cefnogaeth i barhau i wneud hynny ar ôl dychwelyd i'r llinell flaen os ydynt yn dymuno gwneud hynny yn Heddlu Gogledd Cymru.
Fel rhan o Wythnos Plismona Ymateb, mae'r Arolygydd Katie Ellis wedi siarad yn onest am ei phrofiad o fwydo o'r fron ar ôl dychwelyd i'r gwaith.
Yn ystod ei chyfnod mamolaeth, cafodd ei dyrchafu i fod yn Arolygydd Patrôl, yn gweithio ar blismona ymateb.
"Ar ôl cael gwybod fy mod wedi bod yn llwyddiannus, ro'n dychwelyd nid yn unig i'r gwaith fel Arolygydd ond hefyd fel mam newydd" dywedodd.
"Roedd fy mab yn 10 mis oed ar y pryd a ro'n i’n cyfuno bwydo o'r fron a bwydo gyda photel.
“Oherwydd ei fod yn rôl weithredol, mae'n rhaid i mi gyfuno bwydo gyda gweithio patrymau sifft gwahanol, felly ro'n i'n gallu tynnu llefrith yn ystod y gwaith a chadw'r llefrith mewn oergell addas i'w gludo adref.
“Ro'n i hefyd yn gallu gwneud cais am wisg arbennig a oedd yn gwneud i mi deimlo yn gyfforddus ar ddiwrnod y cyfweliad ar gyfer y dyrchafiad gan roi'r hyder i mi berfformio ar fy ngorau.
Cyn dychwelyd i'r gwaith, cysylltodd y Prif Uwcharolygydd â’r Arolygydd Ellis i drafod sut y gallai'r heddlu wneud pethau'n haws iddi wrth ddychwelyd i'r gwaith ac ymateb i ofynion y rôl newydd.
“Roedd gen i fentor cefnogol iawn a gadwodd mewn cysylltiad â mi tra fy mod i ffwrdd o'r gwaith ac a helpodd fi pan oedd angen" dywedodd.
“Dw i'n teimlo'n lwcus o fod wedi cael cymaint o gefnogaeth gan y teulu i fy ngalluogi i fynd yn ôl i weithio amser llawn, ond dw i hefyd yn gwybod bod trefniadau hyblyg ar gael i mi os oes angen."
Dywedodd Arolygydd Ellis fel y gwnaeth hi "stopio bwydo o'r fron yn naturiol" pan oedd ei babi'n 12 mis oed.
Ychwanegodd: "Rwyf yn falch iawn fy mod i wedi cael cefnogaeth fel nad oedd yn rhaid i mi orffen bwydo o'r fron yn gynnar er mwyn dychwelyd i'r gwaith."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymroddedig i greu amgylchedd gwaith cefnogol i deuluoedd.
Mae hyn yn cynnwys dyddiau cadw mewn cysylltiad (KIT) pan i ffwrdd o'r gwaith, rhwydwaith rhiant a gofalwr, mentoriaid mamolaeth a thadolaeth, cyfleoedd gwaith hyblyg, ac addasiadau eraill yn y gweithle.
Mae Wythnos Plismona Ymateb yn cydnabod rôl hanfodol ein swyddogion ymateb sy'n cadw ein cymunedau'n ddiogel er mwyn gwneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag o'n y DU. Yr wythnos hon rydym yn rhannu straeon gan swyddogion llinell flaen am eu gyrfaoedd gan ddefnyddio #PlismonaYmateb.
Rydym nawr yn recriwtio ar gyfer swyddogion heddlu ar #TîmHGC. Gwnewch gais i ddechrau eich gyrfa ar ein gwefan.