Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Gorchymyn Gwasgaru wedi ei gyhoeddi ynghanol tref Prestatyn, yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â phobl ifanc.
Mae hyn wedi digwydd oherwydd cynnydd yn y nifer o adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol, difrod troseddol a throseddau yn erbyn y drefn cyhoeddus.
Mi gafodd unigolyn yn ei arddegau ei arestio ar amheuaeth o drosedd yn erbyn y drefn cyhoeddus yn gysylltiedig â chasineb , ac wedi derbyn amodau mechnïaeth i gadw draw o ardal y parc manwerthu.
Dywedodd yr Arolygydd Dros Dro, Ben Garnett: “‘Da ni’n cydnabod yr effaith niweidiol mae digwyddiadau fel hyn yn ei gael ar y gymuned a busnesau lleol.
“Mae ymholiadau ar y gweill er mwyn adnabod y rhai sy’n gysylltiedig â’r digwyddiadau. Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth gallai ein helpu ni, neu efallai fideo neu fideo camera cerbyd o’r digwyddiad, cysylltwch efo ni.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned am ein hysbysu yn gyflym tra ‘roedd y digwyddiad yn mynd ymlaen.
“Bydd rhagor o batrolau yn yr ardal dros y dyddiau nesaf er mwyn atal rhagor o ddigwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn.”
Mae’r gorchymyn gwasgaru yn cwmpasu’r ardal wedi’i hamlinellu ar y map isod, ac mi fydd mewn lle tan 7.30pm ar 13 Mehefin.
Mae’r gorchymyn yn caniatáu i’r heddlu ofyn wrth unrhyw un adael yr ardal os maen nhw’n credu bod rhywun yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol, neu yn debygol o wneud.
Dylai unrhyw un efo gwybodaeth gallai ein helpu ni efo’n ymholiadau gysylltu’r heddlu drwy ein gwefan, drwy ffonio 101, neu yn ddienw drwy Crimestoppers, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 24000519995.