Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn cynyddu patrolau yn ardal Llanberis ar ôl tri byrgleriaeth dros yr wythnos diwethaf.
‘Roedd y digwyddiad cyntaf yn fyrgleriaeth gais dros nos rhwng 29 a 30 Mai mewn eiddo ar Stryd Fawr Deiniolen. Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu efo ni, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 24000484966.
Credir bod yr ail ddigwyddiad wedi digwydd rhwng 2.30am a 3.30am ar 3 Mehefin, mewn eiddo busnes ar Ffordd yr Orsaf, Llanberis. Mae wedi ei riportio bod dyn a dynes wedi eu gweld yn yr ardal cyn gyrru i ffwrdd. Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu efo ni, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 24000494986.
Digwyddodd y trydydd ddigwyddiad dros nos rhwng 3 a 4 Mehefin, mewn cyfeiriad yn ardal Fron Goch Llanberis, lle cafodd dau feic mynydd eu dwyn. Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu efo ni, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 24000497959.
Dywedodd Rhingyll Cefnogol yr Ardal, Andy Davies: “’Dwi’n annog y gymuned leol i fod yn wyliadwrus o weithgareddau amheus ar ôl hysbysiadau o fyrgleriaethau yn ardal Llanberis. Riportiwch unrhyw ymddygiad amheus i’r heddlu.
“’Da ni’n cynyddu ein patrolau yn Llanberis a’r ardal ehangach gyda’r nos a dros nos er mwyn atal digwyddiadau pellach.”
Os oes gennych chi wybodaeth allai helpu efo’n ymholiadau, cysylltwch â’r heddlu drwy ein gwefan, drwy ffonio 101, neu yn ddi-enw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.