Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dynes a gafodd ei hanafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ger Dolgellau yn gynharach eleni wedi cael ei dedfrydu.
Ymddangosodd Claire Williams, 41 oed o Glawdd Ponciau yng Nghorwen ger bron Llys Caernarfon ddoe (dydd Mercher, 25 Medi) ar ôl pledio’n euog i yrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A494 Rhydymain toc cyn 2am ar ddydd Sadwrn, 13 Ebrill ac roedd yn ymwneud â Ford Focus du a oedd yn cael ei yrru gan Williams.
Aethpwyd a hi i Ysbyty Maelor yn Wrecsam cyn ei throsglwyddo i’r ysbyty yn Stoke oherwydd natur ei hanafiadau. Arhosodd yn yr ysbyty tan fis Mai.
Yn dilyn canlyniadau profion tocsicoleg, cafodd Williams ei chyfweld lle cyfaddefodd mai hi oedd gyrrwr y cerbyd ar adeg y gwrthdrawiad. Dangosodd canlyniadau’r profion ei bod dros y terfyn alcohol a’i bod wedi defnyddio cocên cyn y gwrthdrawiad.
Cafodd ei chyhuddo o yrru tra o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau ac ddoe mi gafodd ei dedfrydu i:
Dywedodd PC Gareth Rogers o’r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol, Heddlu Gogledd Cymru: “Gall gyrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau gael canlyniadau difrifol. Mae Claire Williams yn ffodus nad oedd hi wedi cael ei hanafu’n angheuol, ond roedd hi’n ffodus iawn nad oedd hi wedi anafu modurwr diniwed yn ystod oriau mân y bore hwnnw.
“Mae’n briodol iawn ei bod hi wedi cyfaddef y drosedd drwy gyfaddef ei bod yn euog ac mae’r llys wedi ei thrin hi’n unol â hynny. Gobeithio y bydd hi’n dysgu o’i gweithredoedd cwbl ddi-hid.
“Hoffwn ofyn i ni gyd, fel gyrwyr, ystyried sut rydym yn defnyddio ein cerbydau ar y ffordd. Mae dewis gyrru pan fydd alcohol a chyffuriau yn amharu arnoch yn beryglus ac yn annerbyniol a gall achosi niwed. Rydym wedi ymrwymo gwneud y ffyrdd yn fwy diogel ac mae gennym ni strategaeth gadarn ar gyfer gorfodi’r ‘5 Angheuol’ sy’n cynnwys gyrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.”
Os oes gennych chi wybodaeth am unigolyn/unigolion sy’n yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau, gallwch riportio i ni drwy’r wefan neu drwy ffonio 101. Gallwch hefyd gysylltu’n ddienw hefo Crimestoppers ar 0800 555 111. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.