Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae patrolau gyda’r nos ychwanegol wedi’u lansio yng Ngwynedd, fel rhan o ymgyrch i daclo troseddau cefn gwlad.
Mae’n dilyn hysbysiadau diweddar o fyrgleriaethau yn Ne Gwynedd, yn targedu eiddo mewn ardaloedd cefn gwlad.
Nod Ymgyrch Mantel ydy darparu presenoldeb heddlu amlwg er mwyn tawelu meddwl y cymunedau ac atal troseddau cefn gwlad.
Mae patrolau hyd yn hyn wedi’u cynnal yn Llanwrin, Esgairgeiliog, Dinas Mawddwy, Corris a Dolgellau.
Dywedodd y Cwnstabl Gina Cinderby: “Fel mae’n tywyllu gyda’r nos unwaith eto, ‘da ni’n atgoffa cymunedau cefn gwlad i fod yn wyliadwrus ac i riportio unrhyw weithgareddau amheus.
“Sicrhewch fod pethau gwerthfawr dan glo, a chadwch eich goriadau ar wahân mewn lle diogel.
“Mae gosod CTCC a goleuadau synhwyro symudiad yn gallu atal lladron rhag targedu eiddo.”
Am ragor o wybodaeth am ein menter Dangos y Drws i Drosedd, ewch i’n gwefan.