Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nododd Heddlu Gogledd Cymru ei ben-blwydd yn 50 oed drwy groesawu ymwelwyr i'w bencadlys ar gyfer Diwrnod Agored yr heddlu dros y penwythnos.
Daeth bron i 4,000 o ymwelwyr, a oedd yn cynnwys arddangosfeydd gan Uned Drylliau Tanio a chŵn yr Heddlu ac arddangosfa trefn gyhoeddus yn cynnwys tân.
Wedi'i gynnal ddiwethaf yn 2017, mae'r Diwrnod Agored sydd am ddim yn parhau bod yn achlysur hynod boblogaidd hefo pobl o bob oed.
Wedi'i gynnal ym Mhencadlys yr Heddlu ar ddydd Sadwrn 14 Medi, disgleiriodd yr haul ar ddiwrnod llawn gweithgareddau a oedd yn nodi pen-blwydd yr heddlu yn 50 oed. Cafodd ymwelwyr gyfle cwrdd hefo swyddogion a staff o amrywiaeth o dimau ac adrannau er mwyn dysgu mwy am blismona yng Ngogledd Cymru.
Cynhaliwyd amserlen lawn o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd trwy gydol y dydd, gan gynnwys arddangosiadau byw gan yr Uned Drylliau Tanio a Chŵn ar y Cyd, efelychiadau Trefn Cyhoeddus byw ac ymweliad gan hofrennydd yr heddlu.
Ochr yn ochr â'r llu o arddangosfeydd a stondinau, allfeydd bwyd ac elusennau lleol, cafwyd sgyrsiau yn trafod pynciau fel camfanteisio ar blant a chyfle i ddysgu mwy am ateb galwadau 999 a sut y gall gyrru'n fwy saff achub bywydau.
Roedd sawl stondin ac arddangosfa hefyd yn cynnig cyngor atal troseddau yn ogystal â stondinau gan ein partneriaid gan gynnwys y Tîm Achub Mynydd, Gwylwyr y Glannau, y Bad Achub a Beiciau Iechyd Meddwl.
Roedd ceir heddlu hanesyddol yn cael eu harddangos ac roedd trelar arddangosfa Police Car UK yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am gerbydau'r heddlu a sut maen nhw wedi newid dros y blynyddoedd.
Roedd ymwelwyr hefyd yn gallu galw heibio amgueddfa dros dro'r heddlu, a oedd yn arddangos y newidiadau mawr sydd wedi digwydd ers i Heddlu Gogledd Cymru gael ei sefydlu yn 1974. Roedd yr arddangosfa'n cynnwys offer hanesyddol yr heddlu, hen lifrai, ffotograffau a darnau o bapurau newydd o orffennol yr heddlu.
Roedd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman wrth ei bodd hefo'r diwrnod. Dywedodd: "Dwi'n falch iawn o ddweud bod y Diwrnod Agored wedi bod yn ddigwyddiad gwych.
"Hefo cymaint o bobl yn bresennol, rhoddodd y cyfle delfrydol i'n swyddogion a'n staff ni sgwrsio hefo'r cymunedau 'da ni'n falch o'u gwasanaethu nhw.
“Wrth i ni fel heddlu ddathlu ein pen-blwydd yn 50 oed, roedd y diwrnod hefyd yn rhoi cipolwg go iawn i'r cyhoedd ar y sgiliau a'r arbenigeddau amrywiol sy'n bodoli o fewn Heddlu Gogledd Cymru a'n hasiantaethau partner.
"Mi fuaswn i'n hoffi diolch i bawb sy'n ymwneud hefo trefnu a chyflwyno'r Diwrnod Agored a chanmol eu gwaith caled nhw i'w wneud yn achlysur diogel a chofiadwy i'r rhai a ddaeth draw."
Er mwyn gweld rhai o'r lluniau o'r Diwrnod Agored ewch draw i'n tudalennau Facebook neu Instagram.
Nodiadau: