Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 45 oed wedi ei garcharu yn dilyn ymosodiad ar ddau swyddog heddlu yng Nghaernarfon ar ddydd Llun, 16 Medi.
Mi ymddangosodd Dewi Glyn Parry, o Ffordd Llandygai, Llandygai, yn Llys Ynadon Caernarfon ddoe, dydd Mawrth 17 Medi, ar ôl cyfaddef ymosod ar ddau weithiwr y gwasanaethau brys.
O gwmpas 9pm nos Lun, aeth swyddogion heddlu i ardal Lôn y Bryn yng Nghaernarfon ar ôl cael adroddiadau am anhrefn.
Ar ôl cyrraedd, dechreuodd Parry fod yn ymosodol tuag at y swyddogion, gan wthio un swyddog i’r llawr, a chydio swyddog arall, gan roi pwysau ar ei garddwrn ac achosi chwydd iddi.
Mi gyrhaeddodd swyddogion ychwanegol i helpu, ac mi gafodd Parry ei arestio a’i gludo i’r ddalfa yng Nghaernarfon.
Mi gafodd ei garcharu am 12 wythnos.
Dywedodd Ian Roberts, Arolygydd Gogledd Gwynedd: “’Roedd ymddygiad Parry tuag at swyddogion heddlu oedd yn ceisio gwneud eu gwaith yn annerbyniol.
“Ni fydd ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaethau brys yn cael eu goddef, ac mi wnawn ni eu trin yn gadarn.”
Os oes gyno chi unrhyw wybodaeth ynglŷn â chyflenwi cyffuriau yng Nghaernarfon, cysylltwch efo Crimestoppers yn ddienw drwy eu gwefan nhw, neu drwy ffonio 0800 555 111.