Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio technoleg Adnabod Wynebau yn Wrecsam ar ddydd Sadwrn, 7 Medi 2024.
Bydd yr adnodd rhagweithiol hwn yn rhan o drefniadau plismona ar ddiwrnod gêm bêl-droed Adran Un rhwng Wrecsam ac Amwythig.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Mark Williams: “Mae technoleg adnabod wynebau yn galluogi heddluoedd i adnabod rhai o dan amheuaeth, pobl sydd yn eisiau ar warant a phobl sydd ar goll.
“Mae defnydd o’r dechnoleg hon gan Heddlu Gogledd Cymru wedi ei gynllunio i fod yn gyfrifol, gymedrol ac yn deg. Y bwriad ydy cadw’r cyhoedd yn ddiogel drwy adnabod troseddwyr difrifol a diogelu pob fregus.
"Mae’r meddalwedd adnabod wynebau yn ffordd effeithiol ac effeithlon o adnabod troseddwyr adnabyddus yn y dorf.
“Rydym yn awyddus iawn i’r bobl hyn gael eu dal ond hefyd yn awyddus i bobl diniwed fynd o gwmpas eu pethau a chael amser da mewn gem bêl-droed maent wedi talu i fynd iddo.
“Gall y cyhoedd fod yn sicr bod y system yn chwilio yn benodol a bobl sydd yn eisiau gan yr heddlu ac nid yw’n cofnodi nad yn storio wynebau unrhyw un nad yw’r heddlu yn chwilio amdano.
“Hoffwn bwysleisio bod cymesuredd a chydymffurfedd gyda deddfwriaeth a chanllawiau yn ystyriaethau allweddol wrth gyflwyno’r dechnoleg adnabod wynebau yn y digwyddiad hwn yn Wrecsam.”
Pwrpas penodol cyflwyno system adnabod wynebau yw:
Cefnogi Plismona ym maes adnabod pobl sydd yn eisiau am droseddau difrifol, cefnogi gorfodi’r gyfraith yn cynnwys gweinyddu cyfiawnder (drwy arestio pobl sydd yn eisiau ar warant neu sydd o gwmpas yn anghyfreithlon/wedi cael eu galw yn ôl i’r carchar) ac i hyrwyddo diogelu pobl bregus.
Bydd lleoliadau ble mae technoleg adnabod wynebau yn cael ei ddefnyddio wedi cael eu marcio yn glir.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y defnydd o dechnoleg Adnabod Wynebau, ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth: