Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio adnabod wynebau byw mewn digwyddiadau penodol ar draws y rhanbarth ar ôl iddo gael ei ddefnyddio'n llwyddiannus ym Mhorthladd Caergybi yn gynharach eleni.
Gan weithio hefo cydweithwyr o Heddlu De Cymru, bydd y dechnoleg yn cael ei defnyddio er mwyn cadw'r cyhoedd yn saff.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Mark Williams, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Gweithredol Heddlu Gogledd Cymru: "Ein prif amcanion wrth ddefnyddio'r dechnoleg hon ydy cadw'r cyhoedd yn saff a'n helpu ni adnabod troseddwyr difrifol sy'n peri risg sylweddol i'n cymunedau ni."
Dangosodd arolwg a gwblhawyd ar ran y Comisiynydd Gwybodaeth yn 2021 fod 82% o'r ymatebwyr yn nodi eu bod nhw'n cefnogi'r Heddlu yn defnyddio adnabod wynebau byw.
Ychwanegodd y Prif Uwcharolygydd Williams: "Dwi'n credu y bydd cefnogaeth y cyhoedd yn parhau wrth i ni weithio defnyddio'r holl ddulliau a thechnolegau sydd ar gael er mwyn cadw ein cymunedau'n saff. Byddwn ni bob amser yn gwneud yn siŵr bod ein defnydd ni o adnabod wynebau byw yn gyfreithlon, moesegol a chyfreithlon."
Mae adnabod wynebau byw yn cymharu ffrwd camera byw o wynebau mewn ardal o dan sylw hefo rhestr wylio a bennwyd ymlaen llaw mewn amser real. Mae'n cael ei ddefnyddio er mwyn dod o hyd i bobl o ddiddordeb trwy greu rhybudd pan geir cydweddiad posibl.
Cyn defnyddio adnabod wynebau byw, mae rhestr gwylio yn cael ei chreu o bobl sydd yn eisiau gan yr heddlu a'r llysoedd. Gall y rhestr wylio hefyd gynnwys pobl a allai beri risg o niwed iddyn nhw eu hunain neu i bobl eraill.
Pan nodir cydweddiad posibl bydd swyddog yn cymharu delwedd y camera hefo'r unigolyn y mae'n ei weld ac yn penderfynu a ddylid siarad hefo nhw. Y swyddog heddlu sy'n penderfynu siarad hefo unigolyn yn dilyn cydweddiad posibl bob amser.
Rhoddir esboniad i'r unigolyn bob amser ynghylch pam eu bod nhw wedi cael eu dewis. Byddan nhw hefyd yn cael taflen wybodaeth hefo manylion cyswllt os oes ganddyn nhw gwestiynau pellach.
Ni ellir adnabod pobl nad ydyn nhw wedi'u cynnwys ar restr gwylio.
Mae delweddau a data biometreg yn berthnasol i unigolion sydd ddim yn achosi rhybudd yn cael eu dileu yn awtomatig ac ar unwaith.
Yn unol hefo Canllawiau Cenedlaethol, gwnaiff Heddlu Gogledd Cymru bopeth rhesymol posibl i roi gwybod i bobl pryd a lle 'da ni'n defnyddio adnabod wynebau byw cyn unrhyw leoli, a bydd arwyddion clir adnabyddadwy yn cyd-fynd hefo unrhyw leoli er mwyn dangos hynny
Mae mwy o wybodaeth am ei ddefnydd yng Ngogledd Cymru ar gael yma: Adnabod wynebau byw | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)