Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd y gefeilliaid un ffunud, Elin a Lisa Jones, eu magu ar fferm ym Mryncir, Gwynedd, ond ‘roedden nhw wedi breuddwydio erioed am fod yn swyddogion heddlu un diwrnod.
Pan ‘roedden nhw’n wyth mlwydd oed, mi fu farw eu tad yn drychinebus, yn dilyn trawiad sydyn ar ei galon. Mi ‘roedd yn ystod y cyfnod trawmatig yma yn eu bywydau dechreuodd eu diddordeb yn Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd Lisa: “’Dwi’n dal i gofio dau swyddog heddlu bendigedig yn ein cysuro ni ar yr adeg mwyaf anodd yn ein bywydau.
“Cyn hynny, ‘roeddwn i wedi meddwl bod swyddogion heddlu i’w hofni, ond o’r diwrnod hwnnw ymlaen, mi wnaethon nhw fy ysbrydoli i. ‘Roedden nhw yno i ni ar ein adeg tywyllaf, ac mi wnaethon nhw ein helpu prosesu be’ oedd wedi digwydd.
“O hynny ymlaen, mi ‘roedd y ddwy ohonom ni eisiau helpu pobl eraill fel ‘roedd y swyddogion rheiny wedi ein helpu ni.”
Mi wnaeth y ddwy chwaer gwblhau eu hamser yn yr ysgol, a chyflawni eu Lefelau A, cyn cael swyddi efo’i gilydd mewn ysgol gynradd leol a swyddi gyda’r nos yn Asda.
Dywedodd Elin: “’Roedden ni’n arfer gweithio yn yr ysgol gynradd rhwng 9am a 3pm, ac yno i Asda o 4pm tan 10pm.
“Mi weithion ni yno am dair blynedd er mwyn gwella ein Saesneg, ac mi aethon ni ymlaen i fod yn rheolwr dyletswydd ac yn arweinydd adran.”
Y tu allan i’r gwaith, mae Elin a Lisa yn mwynhau chwarae pêl-droed, efo’r ddwy ohonyn nhw yn chwarae i dîm Caernarfon, ynghyd â’u brawd, sy’n rheolwr ar y tîm.
Dywedodd Lisa: “’Da ni wrth ein boddau yn chwarae pêl-droed a bod yn rhan o’r gymuned honno. Dyna pan wnaethon ni benderfynu dechrau tîm genethod o dan wyth oed.
“Mae wedi bod mor foddhaol gweld y genethod ifanc yn dechrau mwynhau’r gêm, yn datblygu eu sgiliau ac, yn fwyaf pwysig, yn dysgu gweithio fel tîm.”
Mi wnaeth eu hoffter tuag at eu cymuned eu hysbrydoli i gymryd y cam nesaf efo’u gyrfaoedd, ac i ddilyn eu breuddwyd o fod yn swyddogion heddlu.
Dywedodd Elin: “Mi benderfynom ni ymgeisio efo’n gilydd, gan ein bod wedi gwneud bob dim efo’n gilydd ers i ni fod yn fach. ‘Da ni mor hapus ein bod yn mynd drwy’r broses efo’n gilydd, mi wnawn ni helpu ein gilydd yn ein gyrfaoedd newydd.”
Mi ‘roedd y ddwy yn llwyddiannus wrth basio’r broses recriwtio, ac mi ddechreuon nhw eu hyfforddiant cychwynnol yn Llanelwy yn month year.
Ychwanegodd Lisa: “Mi ‘roedd y broses ymgeisio yn heriol, ond dim mwy na’r hyn oeddem ni’n ei ddisgwyl. ‘Da ni dros hanner ffordd drwy ein hyfforddiant ni ac yn mwynhau’r broses hyd yn hyn.
“’Roeddwn i’n bryderus am y senarios chwarae rôl, ond, erbyn cymryd rhan mewn tri hyd yn hyn, ‘dwi wedi ei fwynhau ac wedi dysgu sut i ymdrin â gwahanol sefyllfaoedd.
“’Da ni’n cael llawer o help gan yr hyfforddwyr, sy’n ein helpu ni fod yn fwy hyderus cyn i ni gychwyn fel swyddogion ymateb. Maen nhw eisiau’r gorau i bob un ohonom ni sydd o dan hyfforddiant.”
Maes arall lle mae’r chwiorydd yn cael cefnogaeth ydy efo’u sgiliau iaith.
Dywedodd Elin: “Cymraeg ydy ein hiaith gyntaf. ‘Da ni ddim yn siarad Saesneg adref, felly ‘roedd hyn yn rhywbeth oeddem ni’n teimlo’n bryderus amdano, hefyd.
“P’run bynnag, mae’r heddlu wedi bod yn gefnogol iawn i’n helpu dysgu drwy’r Gymraeg, a gwella ein Saesneg ar yr un pryd.”
Ar ôl gorffen eu hyfforddiant cychwynnol, mi fydd y gefeilliaid yn gweithio yn ardal De Gwynedd, lle fydden nhw’n ymuno fel swyddogion ymateb, yn ymateb i alwadau brys, yn helpu dioddefwyr trosedd a thaclo ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Wrth feddwl beth sydd o’u blaenau, dywedodd Lisa: “’Dwi’n edrych ymlaen fwyaf at wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl, yn gweithio er mwyn lleihau trosedd a gwella’r gymuned, i’w wneud yn saffach i’r rhai o’n cwmpas ni.
“Y rhan fwyaf heriol o’r swydd fydd ymateb i ddigwyddiadau trawmatig. Ond ‘dwi’n barod i fynd iddyn nhw, gan wybod bod y swyddogion sydd wedi wynebu’r un digwyddiadau ydy’r rhai wnaeth newid fy mywyd ac ein hysbrydoli ni’n dwy ymuno efo’r heddlu. ‘Dwi’n gobeithio fydda i yn medru cael yr un argraff ar fywyd rhywun.”
Ychwanegodd Elin: “’Da ni’n edrych ymlaen at ein dyfodol ni ym mhlismona, ac yn gobeithio gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd.
“Mi fydd ei wneud efo’n gilydd yn ei wneud yn hyd yn oed mwy gwerthfawr.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am bobl sy’n adlewyrchu’r cymunedau ‘da ni’n eu gwasanaethu, sy’n dod â phrofiadau amrywiol ac sy’n barod i warchod y rhai sydd ei angen fwyaf. Os oes gennych chi’r sgiliau i wneud gwahaniaeth, ymgeisiwch ar ein gwefan ni heddiw.