Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mi fydd drysau Pencadlys yr Heddlu ym Mae Colwyn yn agor i’r cyhoedd unwaith eto mis yma er mwyn gweld tu ôl i lenni Heddlu Gogledd Cymru.
Er mwyn dathlu 50 mlynedd o’r Heddlu, estynnir gwahoddiad i’r cyhoedd fynychu’r Diwrnod Agored ar ddydd Sadwrn, 14 Medi er mwyn dysgu am ein gwaith ni ar draws y rhanbarth, gweld ein timau ni ar waith a chael yr wybodaeth diweddaraf i’ch cadw chi a’ch anwyliaid yn saff.
Caiff pobl y cyfle i gyfarfod rhai o gŵn yr heddlu, siarad hefo swyddogion lleol a darganfod sut y gallwch chi ymuno hefo Heddlu Gogledd Cymru.
Bydd cyfle i gael eistedd mewn car ac ar feic yr heddlu a chyfarfod unigolion o’r Tîm Chwilio Tanddwr. Cewch weld yr hofrennydd a chyfarfod y criw*. Cewch ymweld â’r Adran Hyfforddi yn y gampfa. Cewch ymweld â’r Ystafell Reoli wrth gefn a dysgu mwy am sut mae galwadau 999 yn cael eu derbyn. Cewch weld sut mae’r Tîm Ymchwilio Gwrthdrawiadau, cyfarfod Tîm yr Uned Dronau a gweld y dechnoleg ddiweddaraf a dysgu mwy am waith Adran y Fflyd sy’n edrych ar ôl holl gerbydau’r heddlu.
Bydd rhai o Gadetiaid yr Heddlu yn cymryd rhan mewn gorymdaith. Bydd arddangosfeydd byw gan yr Heddlu Arfog a’r Uned Gŵn. Bydd rhai o sêr y gyfres deledu Y Llinell Las yno. Bydd arddangosfeydd byw plismona trefn gyhoeddus, gweithgareddau i blant a stondinau bwyd.
Bydd arddangosfa arbennig yn cael ei chynnal yn un o’n hystafelloedd cynhadledd er mwyn nodi’r 50 mlwyddiant a fydd yn cynnwys offer, hen lifrai, lluniau a straeon o’r blynyddoedd a fu.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim a fydd yn cael ei gynnal rhwng 10:30am a 4pm ac mae’n addas ar gyfer pob oed.
Cynhaliwyd y Diwrnod Agored diwethaf yn 2017 ac mae’r Prif Gwnstabl Amanda Blakeman yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’r digwyddiad. Dywedodd: “Eleni rydym yn dathlu pum degawd o wasanaeth ymroddedig i’n cymuned ni, felly mae’r Diwrnod Agored yn ffordd berffaith i nodi’r garreg filltir hon.
“Yr allwedd i blismona llwyddiannus ydy cysylltiadau cryf a chefnogaeth gan y gymuned, ac mae digwyddiadau fel hyn yn helpu cyflawni hyn.
“Mae’r Diwrnod Agored yn argoeli bod yn hwyl a phleserus i ymwelwyr o bob oed ac yn rhoi’r cyfle i ni roi cipolwg i ymwelwyr ar waith yr heddlu a chodi ymwybyddiaeth o’r mentrau sy’n parhau.
“Dwi a gweddill Tîm y Prif Swyddogion yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i Bencadlys yr Heddlu.”
Bydd nifer o arddangoswyr allanol hefyd yno ar y diwrnod, gan gynnwys gwasanaethau brys eraill gan gynnwys yr RNLI, Gwylwyr y Glannau a Thimau Achub Mynydd.
*yn amodol ar alw gweithredol ac argaeledd.