Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd troseddwyr trawsffiniol oedd yn teithio rhwng Gogledd Cymru a Dyfed Powys eu targedu ddydd Mercher 25 Medi fel rhan o Ymgyrch Ramify.
Yn ystod y diwrnod gweithredu, gwelwyd Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Dyfed Powys yn dod at ei gilydd, gan ddefnyddio swyddogion ar draws y ddwy ardal er mwyn aflonyddu ar droseddau a gyrru peryglus sy'n digwydd ar draws y ffiniau.
Bu swyddogion yn patrolio'r prif ffyrdd rhwng y ddwy ardal heddlu, gan gynnwys Dolgellau, Aberdyfi a Machynlleth, gan ganolbwyntio ar bum trosedd angheuol. Dyma'r pum prif ffactor sy'n cyfrannu at wrthdrawiadau traffig ffordd difrifol ac angheuol.
Y rhain ydy yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau, goryrru, gyrru diofal, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a defnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Defnyddiwyd camerâu Adnabod Rhifau Awtomatig (ANPR) hefyd ar y diwrnod i rwystro cerbydau sy'n hysbys i'r heddlu.
Rhoddwyd cyfanswm o 17 adroddiad troseddau traffig (TORs) ar y diwrnod, am resymau gan gynnwys defnyddio ffonau symudol, goryrru, teiars moel ac un cerbyd heb MOT.
Dywedodd Iwan Jones, Arolygydd Ardal De Gwynedd: "Mae'r ymgyrch wedi llwyddo gadael i ni weithio'n agos hefo chydweithwyr o Ddyfed Powys er mwyn rhannu gwybodaeth a thargedu'r rhai sy'n teithio rhwng y ddwy ardal heddlu.
"Er bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr y ffordd yn gyrru'n saff yn ôl y gyfraith, mae cyfran o bobl yn defnyddio'r ffyrdd at ddibenion troseddol neu efallai eu bod yn cyflawni pum trosedd angheuol.
"Mae'r patrolau amlwg iawn ar draws yr ardaloedd gwledig yn hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.
"Cafodd swyddogion eu hanfon i lecynnau yn ogystal â thargedu unigolion sy'n hysbys eu bod yn defnyddio'r ffyrdd yn anghyfreithlon trwy yrru heb yswiriant dilys, trwydded na MOT."
"Roedd yr ymgyrch hefyd yn targedu'r rhai a oedd yn gysylltiedig hefo llinellau cyffuriau a dwyn offer amaethyddol 'da ni'n gwybod sy'n cael effaith andwyol ar gymunedau gwledig.
"Ni allwn danseilio effaith troseddau trawsffiniol ar ein cymunedau lleol.
"Rydym wedi ymroi o hyd i weithio gyda heddluoedd cyfagos er mwyn ymlid troseddwyr. Gyda'n gilydd gwnawn barhau i wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld.
"Rwyf yn gobeithio fod yr ymgyrch hon wedi tawelu meddwl trigolion y gwnawn yr oll a allwn er mwyn gwarchod y cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu a thynnu'r rhai hynny sy'n troseddu oddi ar ein strydoedd."
Dywedodd yr Arolygydd Yip o Heddlu Dyfed Powys: "Y prif nod gweithredol oedd tarfu ar weithgarwch timau o droseddwyr teithiol a'u hatal nhw rhag defnyddio'r gwahanol ffiniau er mwyn osgoi unedau'r heddlu.
"Fe wnawn ni barhau gweithio hefo heddluoedd cyfagos er mwyn targedu troseddwyr teithiol sy'n cyflawni ystod eang o droseddau."
Os oes gynnoch chi wybodaeth am unigolion sy'n defnyddio'r ffyrdd yn beryglus neu'n anghyfreithlon, cysylltwch hefo'r heddlu drwy ein gwefannau, drwy ffonio 101, neu'n ddienw trwy Crimestoppers.