Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Bwrdd Moeseg sy'n cael ei gadeirio yn annibynnol wedi ei sefydlu i wella ymddiriedaeth a hyder ym maes llywodraeth foesegol a gweithredoedd Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Yn sylfaenol bydd y bwrdd yn gweithredu fel fforwm ar gyfer adolygiad annibynnol o faterion moesegol yn yr heddlu.
Bydd ei harweiniad yn helpu hysbysu gwaith Heddlu Gogledd Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a bydd yn rhoi sicrwydd ychwanegol i'r cyhoedd.
Bydd panel y Bwrdd yn edrych ar faterion moesegol o fewn yr heddlu ac yn hyrwyddo gweithio tryloyw ac arfer da ar draws yr heddlu.
Ei nod fydd cynnwys yr holl rolau o fewn plismona ac ymgorffori gwaith swyddogion, staff a gwirfoddolwyr o fewn Heddlu Gogledd Cymru.
Fel rhan o'u rôl, bydd aelodau'r Bwrdd Moeseg yn:
Bydd gwaith y bwrdd yn cael ei arwain yn annibynnol gan y Cadeirydd Victoria Holbrook-Hughes gyda Phennaeth Cudd-wybodaeth Busnes HGC James Sutton fel Dirprwy Gadeirydd.
Bydd gan 10 aelod arall o HGC aelodaeth ar y bwrdd: yn cynnwys cymysgedd o unigolion wedi eu dethol o swyddi gweithredol ac anweithredol.
Bydd un aelod yn cael ei ddethol o Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Bydd y bwrdd hefyd yn cynnwys 10 aelod allanol, yn cynnwys myfyriwr o goleg lleol, un academydd uwch mewn maes perthnasol, tri aelod o Grŵp Ymgynghorol Annibynnol yr heddlu, un o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac aelodau eraill sydd eto i'w recriwtio.
Yn y fideo byr hwn mae Victoria Holbrook-Hughes yn trafod ei rôl ac yn rhoi crynodeb o'r gwaith mae'r bwrdd yn ei wneud a'i ddyletswyddau ehangach.
Mae gwella hyder y cyhoedd mewn plismona yn flaenoriaeth allweddol i Heddlu Gogledd Cymru ac o fewn cynllun ehangach Heddlu a Throsedd .
Mae'r Prif Gwnstabl Amanda Blakeman yn mynnu ei bod hi'n hanfodol i swyddogion heddlu weithio gyda'r cyhoedd yn agored ac yn dryloyw er mwyn adeiladu ymddiriedaeth.
Dywedodd: "Dw i'n croesawu sefydlu Bwrdd Moeseg ac, er lles tryloywder llwyr, mae'n iawn ei fod yn cael ei arwain yn annibynnol.
"Fel Prif Gwnstabl hoffwn sicrhau'r cyhoedd bod gwaith y bwrdd yn mynd i'r afael ac yn asesu materion moesegol ac yn gweithredu gyda thegwch wrth ei wraidd.
"Mae'n hanfodol ar gyfer dilysrwydd y gwasanaeth bod gan ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ffydd yn y prosesau hyn.
"Hefyd, mae'n hanfodol i gymunedau lleol gael ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu.
"Mae ein hymgysylltiad cyhoeddus dwys yn chwarae rhan allweddol yn helpu pobl i deimlo'n ddiogel o fewn cymunedau Gogledd Cymru a byddwn yn ceisio'n gorau i gynnal y safonau uchel hynny.
"Mae gwaith y Bwrdd Moeseg yn alinio'n llawn gyda blaenoriaethau Heddlu Gogledd Cymru; yn bennaf - bod yn amlwg ac ymgysylltu â'n cymunedau; canolbwyntio ar drechu, atal a lleihau trosedd; a darparu gwasanaeth ardderchog i ddioddefwyr.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru fi yw llais etholedig y bobl ym maes plismona, gan ddal yr heddlu i gyfrif a chreu cynllun cyffredinol y mae swyddogion yn gweithio iddo.
“Conglfaen y cynllun hwn yw sicrhau system cyfiawnder troseddol teg ac effeithiol ac - i mi - mae plismona effeithiol yn dechrau gyda heddlu y gellir ymddiried ynddo.
“Dw i'n cefnogi sefydlu'r Bwrdd Moeseg fel modd o hybu tryloywder ac arferion gweithio da ar draws y sefydliad y byddaf bob amser yn helpu eu hadeiladu.