Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym wedi derbyn adroddiadau am fechgyn ifanc yn taflu pethau gan ddifrodi cerbydau a tharo babi mewn coets.
Dywedodd PC Jordan Jones o'r Tîm Plismona Cymdogaethau: "Mae'r ymddygiad diweddar yng Nghaernarfon yn cael effaith ddifrifol ar drigolion ac yn rhoi'r pobl mewn peryg.
“Yn ffodus, ni wnaeth y babi gael ei anafu ond mi allai'r stori fod wedi bod yn wahanol iawn.
"Hyd yn hyn mae 14 o bobl ifanc rhwng 9-15 oed wedi cael eu hadnabod fel rhai sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y digwyddiadau a bydd swyddogion yn ymweld â'u cartrefi i siarad â'u teuluoedd a rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau partneriaid.
“Erlyn pobl ifanc yw'r dewis olaf ond os yw'r digwyddiadau yn parhau i waethygu, bydd yn rhaid gweithredu yn ffurfiol.
"Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i'n cefnogi ni drwy siarad â'u plant ynglŷn â ble maent yn mynd gyda'r nos a chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar fywydau pobl o'u cwmpas.
"Hoffwn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu dystiolaeth ar gamera o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar yr A4085 wrth ymyl Segontium yn benodol, i gysylltu â ni."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Caernarfon gysylltu hefo ni drwy ein gwefan ni neu drwy ffonio 101, neu'n anhysbys drwy Crimestoppers.