Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyngerdd arbennig er mwyn nodi 50 mlynedd o Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei gynnal yn y Rhyl mis nesaf.
Wedi’i drefnu gan dair cangen Cymdeithas Genedlaethol Swyddogion Heddlu wedi Ymddeol (NARPO), cynhelir y cyngerdd yn Theatr y Pafiliwn ar nos Sadwrn 5 Hydref am 7:30pm.
Bydd Côr Alaw, Côr Meibion Colwyn a band roc a rôl The Raccoons yn perfformio, ac mi fydd y noson yn cael ei harwain gan Dilwyn Price.
Mae tocynnau yn £5 yr un hefo’r holl elw yn mynd at Ymddiriedolaeth Goffa’r Heddlu.
Dywed Mel Jones, Cadeirydd Pwyllgor Cyswllt NARPO Gogledd Cymru: “Mae’r noson yn addo bod yn bleserus hefo rhywbeth i bawb ac yn gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn gallu ymuno hefo ni.
“‘Da ni’n hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth gan y corau a cherddorion talentog lleol, a ‘da ni’n edrych ymlaen at noson wych yn y theatr.”
Bydd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman yno ar y noson. Dywedodd: “Mae plismona wedi digwydd yng Ngogledd Cymru ers dros 160 o flynyddoedd ond cafodd Heddlu Gogledd Cymru, fel ‘da ni’n ei adnabod heddiw, ei greu yn swyddogol ar 1 Ebrill 1974.
“‘Da ni wedi nodi’r flwyddyn arbennig hon hefo nifer o weithgareddau gan gynnwys y Diwrnod Agored llwyddiannus a gynhaliwyd yn ddiweddar. ‘Da ni’n ddiolchgar iawn i dair cangen NARPO sydd yn trefnu’r noson arbennig yma ar ein rhan er mwyn dathlu’r 50 mlynedd, a ‘da ni’n edrych ymlaen yn ofnadwy at y noson.”
Mae Ymddiriedolaeth Goffa’r Heddlu yn gweithredu ar draws y DU o dan Siarter Frenhinol a roddwyd gan y Frenhines Elizabeth II yn 2018. Mae’r elusen yn bodoli er mwyn sicrhau nad ydy’r holl swyddogion heddlu hynny a gollodd eu bywydau wrth gyflawni dyletswydd byth yn cael eu anghofio.
Gellir archebu tocynnau gan y theatr yma: NARPO Golden Anniversary Concert – Rhyl Pavilion
Darganfyddwch fwy am NARPO drwy eu gwefan: NARPO – The Voice of Retired Police Officers
Er mwyn dysgu mwy am Ymddiriedolaeth Goffa’r Heddlu, ewch ar eu gwefan nhw: Police Remembrance Trust – Incorporated by Royal Charter (policememorial.org.uk)
Nodyn: