Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Wrecsam a wnaeth wneud i'w gyn gymar ddioddef ymosodiad milain a hir wedi cael ei garcharu.
Roedd Daniel Keith Evans, o Ffordd Offa, Rhos, wedi penio, cicio, brathu, a llosgi'r dioddefwr hefo sigarét yn y digwyddiad yn ei gartref fis Ebrill y llynedd.
Cafodd y dyn 46 oed a ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caernarfon ddoe (Dydd Iau, 9 Mai) ei garcharu am ddwy flynedd am yr ymosodiad.
Rhoddwyd gorchymyn atal iddo hefyd, gan ei atal rhag cysylltu â'r dioddefwr am y 10 mlynedd nesaf.
Cysylltwyd â'r heddlu fore dydd Sadwrn, 29 Ebrill y llynedd gan dyst yn adrodd bod Evans wedi ymosod ar y dioddefwr wedi iddi lwyddo dianc o gartref Evans.
Dechreuodd y digwyddiad yn oriau mân y bore pan ddechreuodd Evans ddadlau hefo'r dioddefwr am eu perthynas yn y gorffennol, a sut yr oedd yn amau ei bod wedi bod yn anffyddlon.
Dywedodd Evans wrth y dioddefwr adael, cyn ymosod arni yn dreisgar dros gyfnod hir.
Yn ogystal â'i phenio hi a thynnu ei gwallt hi, fe ddyrnodd hi mor galed nes iddi ddisgyn i'r llawr, cyn ei chicio yn y pen.
Ar ôl iddi allu gadael, rhedodd hi at gymydog a gofyn am help.
Fe wnaeth Evans ffoi o'r cyfeiriad ond cafodd ei arestio yn ddiweddarach y bore hwnnw.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl April Shaw, y swyddog ymchwilio: “‘Da ni'n croesawu'r ddedfryd hon yn dilyn yr ymosodiad brawychus a hirfaith hwn, a adawodd y dioddefwr yn ofni am ei bywyd.
"Arweiniodd ei dewrder wrth riportio'r digwyddiad i ni, a'i help parhaus yn ystod yr ymchwiliad, at garcharu Evans heddiw. ‘Da ni'n gwybod pa mor anodd y gall hyn fod i ddioddefwyr.
"Ein blaenoriaeth ni ydy mynd i'r afael â phob adroddiad o drais yn erbyn merched. Mae cam-drin domestig yn drosedd ddifrifol, a byddwn ni'n parhau dwyn troseddwyr o flaen eu gwell.
"Os 'da chi'n profi cam-drin domestig neu os 'da chi'n poeni am rywun sy'n cael eu cam-drin, rhowch wybod i ni neu cysylltwch hefo asiantaeth sy'n medru eich helpu chi.
"Fe wnawn wrando arnoch chi ac ymchwilio yn drylwyr i bob adroddiad."
Ymgyrch Unite ydy ein hymateb ni i drais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma – Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru