Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn, 71 oed, o Wrecsam wedi ei garcharu am gam-drin plentyn yn rhywiol.
Cyfaddefodd David Rowland, sydd heb gyfeiriad sefydlog, iddo ymosod yn rhywiol ar blentyn dros gyfnod o amser rhwng Awst 2022 a Mehefin 2023.
Cafod ddedfryd o 10 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug heddiw.
Cafodd Rowland ei riportio i’r heddlu ym Mehefin 2023, pan wnaeth plentyn, na all eu hadnabod am resymau cyfreithiol, ddweud wrth ei mam ei bod wedi dioddef ymosodiadau rhywiol ganddo, sawl gwaith.
Cafodd Rowland ei arestio, ac fe atafaelwyd dyfeisiau, gan gynnwys ei ffôn a’i gyfrifiadur.
Fe wnaeth archwiliadau o’i ddyfeisiau ddarganfod nifer o archwiliadau’r we a lluniau a oedd yn arwydd o’i ddiddordeb rhywiol mewn plant mewn troseddu’n rhywiol.
Ar ôl y dedfrydu heddiw, dywedodd y swyddog archwilio, Ditectif Gwnstabl Ben Franklin: “’Dwi’n cymeradwyo’r dioddefwr am ei dewrder aruthrol yn cyfaddef i’w mam ac yn cymryd y cam anodd yn riportio’r achos i ni.
“Mae ei dewrder, drwy ein hysbysu er mwyn atal Rowland rhag cam-drin ymhellach, wedi arwain at ei arestio, a gyda’n gilydd, gyda chefnogaeth ei mam drwy gydol yr archwiliad, hefyd wedi arwain at ei garchariad am 10 mlynedd heddiw.
“’Rydym yn ymroi i erlyn troseddwyr o droseddau rhywiol, a buaswn yn annog unrhyw un sydd eisiau riportio digwyddiad i ddod atom i siarad efo ni.
“’Rydym yn cymryd pob digwyddiad o drais yn erbyn merched a genethod (VAWG) o ddifri, ac fe wnaiff digwyddiadau o’r math yma barhau i fod yn flaenoriaeth i’r heddlu.”